Datganiad i'r wasg

Y ffigurau economaidd diweddaraf yn dangos mai Cymru oedd y wlad wnaeth dyfu gyflymaf yn y DU yn ystod 2016

Alun Cairns: “Rhaid i ni ganolbwyntio ar gynyddu potensial ein gwlad o sicrhau'r twf economaidd gorau posibl”

  • Caerdydd oedd y brifddinas â’r twf mwyaf yn y DU o ran gwerth ei nwyddau a’i gwasanaethau.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai Cymru oedd y wlad wnaeth dyfu gyflymaf yn y DU yn 2016 o ran gwerth ei nwyddau a’i gwasanaethau.

Mae Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yn mesur y cynnydd yng ngwerth yr economi o ganlyniad i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r ffigurau’n amcangyfrif bod GVA Cymru wedi cynyddu 1.9% yn 2016, tra bod GVA Lloegr wedi cynyddu 1.6%, GVA yr Alban wedi cynyddu 1.2% a GVA Gogledd Iwerddon wedi cynyddu 1.1%. Cafodd y ffigurau cenedlaethol eleni eu haddasu i gynnwys gwerth chwyddiant am y tro cyntaf.

Caerdydd oedd â’r cynnydd mwyaf mewn twf o blith prifddinasoedd y DU, gan dyfu 5.7% yn 2016.

Er bod Cymru wedi dangos arwyddion cadarnhaol o dwf ar y cyfan, hon yw’r wlad â’r GVA isaf y pen, sy’n dangos bod angen gwneud mwy i gau’r bwlch rhyngddi a gwledydd eraill y DU yn y maes hwn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod Cymru wedi perfformio’n well na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran twf GVA.

Ar ben hynny, mae’n wych gweld bod Caerdydd o flaen gweddill prifddinasoedd y DU, o ganlyniad i gryfhau economi Cymru â’i lled-ddargludyddion, ei harbenigedd mewn gwasanaethau ariannol a’i thechnolegau arloesol ym maes gofal iechyd.

Fodd bynnag, Cymru sydd â’r GVA isaf y pen yn y DU o hyd. Rhaid i ni ganolbwyntio ein hymdrechion – yn llywodraethau Cymru a’r DU – ar newid y duedd honno a chynyddu potensial ein gwlad o sicrhau’r twf economaidd gorau posibl.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 20 December 2017