Datganiad i'r wasg

Gostyngiad mawr yng nghyfanswm nifer y bobl ifanc di-waith yng Nghymru

Stephen Crabb: “Mae’r ffigurau hyn yn dangos rhagor o gynnydd da i economi Cymru.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos gostyngiad mawr yn nifer y bobl ifanc “nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant” (NEET) yng Nghymru.

Yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd ddoe (20 Ionawr) roedd 9,100 (8.3%) o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru yn y categori NEET ym mis Medi 2014 – i lawr o 12,900 (11.9%) yn y flwyddyn flaenorol.

Roedd y ffigurau hefyd yn dangos bod nifer y bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn y categori NEET wedi gostwng hefyd - o 51,300 (21.4%) ym mis Medi 2013 i 49,000 (19.7%) y flwyddyn ganlynol.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r ffigurau hyn yn dangos rhagor o gynnydd da i economi Cymru.

Maen nhw’n dangos bod mwy a mwy o bobl ifanc yng Nghymru’n cyrraedd eu potensial yn llawn ac yn datblygu’r sgiliau i gael swydd dda a sicrwydd cyflog rheolaidd.

Mae hyn yn rhan o’n cynllun economaidd hirdymor i ddatblygu gweithlu medrus a deinamig, i gael pobl i weithio, ysgogi twf a denu buddsoddiadau.

Cyhoeddwyd ar 20 January 2015