Datganiad i'r wasg

Ystadegau’r Farchnad Lafur yn dangos bod gwir angen twf, medd Cheryl Gillan

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, fod Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw [17eg Awst 2011] yn dangos bod gwir angen twf yng Nghymru.…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, fod Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw [17eg Awst 2011] yn dangos bod gwir angen twf yng Nghymru.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau cyflogaeth a lefelau diweithdra yng Nghymru wedi disgyn. Roedd cyfraddau a lefelau anweithgarwch economaidd wedi disgyn, yn ogystal a chyfraddau a lefelau cyflogaeth.  

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae ystadegau heddiw yn siomedig i Gymru. Nid ydym yn llaesu ein dwylo am y dasg sydd yn ein hwynebu ac rydym wedi bod yn delio a hinsawdd economaidd ddyrys dros ben.

“Er gwaethaf arwyddion calonogol dros y misoedd diwethaf, mae ystadegau heddiw yn dangos bod gwir angen twf yn y sector preifat yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw hi ein bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddenu mwy o fuddsoddiad a chyfleoedd i fusnesau yn y wlad hon ac yn rhyngwladol.

“Gyda’r cyhoeddiad heddiw ynghylch rhagor o Barthau Menter gan gynnwys un yn Henffordd a pharth a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer Bryste, mae gwir angen manteision tebyg i fusnesau y mae arnynt eisiau buddsoddi yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r rhain.”

Nodiadau i Olygyddion:

1.)   Mae rhagor o wybodaeth am Ystadegau’r Farchnad Lafur ar gael yma

2.)   Mae rhagor o wybodaeth am y Parthau Menter a gyhoeddwyd heddiw ar gael  yma

Cyhoeddwyd ar 17 August 2011