Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Gorffennaf 2015

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer prisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.

Heat Map Juy 2015

Mae data mis Gorffennaf yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.6 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £183,861. Mae prisiau tai misol wedi codi 1.7 y cant oddi ar fis Mehefin 2015.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • y rhanbarth welodd y cynnydd mwyaf arwyddocaol o ran ei phrisiau blynyddol oedd Dwyrain Lloegr gyda symudiad o 8.9 y cant
  • yn Nwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.8 y cant
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y cynnydd pris blynyddol isaf o 0.4 y cant
  • Cymru welodd yr unig ostyngiad misol mewn prisiau gyda gostyngiad o 0.3 y cant

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Mai 2015 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 15 y cant i 65,619 o’i gymharu â 77,488 ym mis Mai 2014
  • y bu gostyngiad o 21 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 878 o 1,113 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 47 y cant i 496 o’i gymharu â 937 ym mis Mai 2014
  • y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd De Ddwyrain Lloegr

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Gorffennaf .

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Mehefin 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Gorffennaf 2014 Pris cyfartalog Gorffennaf 2015
Dwyrain Lloegr 2.8% 8.9% £209,989
Llundain 2.5% 8.3% £488,782
Gorllewin Canolbarth Lloegr 2.0% 3.2% £139,525
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1.9% 5.1% £136,600
De Ddwyrain Lloegr 1.7% 8.2% £252,528
Cymru a Lloegr 1.7% 4.6% £183,861
Swydd Gaerefrog a’r Humber 1.5% 3.1% £123,663
De Orllewin Lloegr 0.9% 4.2% £190,996
Gogledd Ddwyrain Lloegr 0.70% 0.40% £100,670
Gogledd Orllewin Lloegr 0.30% 1.40% £114,064
Cymru -0.30% 1.50% £120,091

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Gorffennaf 2015 Gorffennaf 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £287,351 £274,805 4.6%
Tŷ pâr £173,637 £165,514 4.9%
Tŷ teras £139,474 £133,119 4.8%
Fflat/Fflat deulawr £175,617 £168,600 4.2%
Holl £183,861 £175,697 4.6%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,208 43,411 50%
Chwefror 65,020 45,286 44%
Mawrth 67,346 54,753 23%
Ebrill 70,261 51,065 38%
Mai 77,488 66,376 17%
Mehefin 80,809 66,182 22%
Gorffennaf 84,654 73,757 15%
Awst 87,814 79,504 10%
Medi 78,755 69,732 13%
Hydref 86,178 76,678 12%
Tachwedd 72,935 82,868 -12%
Rhagfyr 77,547 79,625 -3%
Cyfanswm 914,015 789,237 16%

Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014

Mis Gwerthiannau 2015 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 56,399 65,208 -14%
Chwefror 57,154 65,020 -12%
Mawrth 63,297 67,346 -6%
Ebrill 59,063 70,261 -16%
Mai 65,619 77,488 -15%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mai 2015 Mai 2014 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 38 63 -40%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 38 62 -39%
Llundain 47 87 -46%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 18 28 -36%
Gogledd Orllewin Lloegr 123 236 -48%
De Ddwyrain Lloegr 50 109 -54%
De Orllewin Lloegr 30 56 -46%
Cymru 46 94 -51%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 47 79 -41%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 59 123 -52%
Holl 496 937 -47%

Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 86,070 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Gorffennaf 2015. Roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Gorffennaf 2015 (£12.9 miliwn) yn Llundain SW1. Roedd y gwerthiant rhataf yn ystod mis Gorffennaf 2015 yn Burnley, Swydd Gaerhirfryn (£10,000).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Awst am 9.30 y bore ar ddydd Llun 28 Medi 2015. Cyhoeddir y Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda dyddiadau rhyddhau y prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael.

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  12. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry

  14. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 28 August 2015