Skip to main content
Stori newyddion

Gwarant Swyddi Llywodraeth y DU yn gwireddu’r addewid o gyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru

Mae’r bobl ifanc gyntaf yng Nghymru i gael eu cefnogi gan raglen newydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith yn hirdymor wedi dechrau ar eu swyddi.

Jobs Guarantee Scheme. 3,500 young people in Wales will be helped into work.

  • Mae’r garfan gyntaf o bobl ifanc yng Nghymru yn dechrau gweithio drwy Warant Swyddi Llywodraeth y DU, gan weithredu ar flaenoriaeth Prif Weinidog y DU i fynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc  
  • Nod y cynllun yw creu cyfleoedd i’r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi ac mae’n cael ei gefnogi gan fusnesau mawr yn y diwydiannau adeiladu, manwerthu a lletygarwch. 
  • Bydd y Warant Swyddi yn creu dros 90,000 o swyddi wedi’u hariannu’n llawn ledled y DU erbyn 2029, yn rhan allweddol o ymgyrch gwerth £2.5 biliwn Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc

Mae’r bobl ifanc gyntaf yng Nghymru i gael eu cefnogi gan raglen newydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl ifanc sy’n ddi-waith yn hirdymor wedi dechrau ar eu swyddi.   

Lansiwyd y cynllun Gwarant Swyddi yr haf yma, ac mae’n cynnig llwybr uniongyrchol i waith i bob person ifanc 18–24 oed sydd wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn chwilio am waith ers 18 mis.   

Mae’r swyddi sydd ar gael yn cael eu paru â sgiliau unigolion, gyda Llywodraeth y DU yn ariannu hyd at 25 awr o waith cyflogedig yn llawn am chwe mis fel bod unigolion yn dod yn rhan o’r farchnad lafur.  

Bydd y cynllun yn helpu 3,500 o bobl ifanc yng Nghymru i gael gwaith yn ystod y tair blynedd nesaf, gyda’r garfan gyntaf o bobl ifanc wedi dechrau ar swyddi yng Nghaerdydd, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerffili a Rhondda Cynon Taf.  

Gan gydnabod mai’r hiraf y mae pobl yn ddi-waith, yr anoddaf yw hi i ddechrau gweithio eto, mae pobl ifanc ar y cynllun yn cael cymorth pwrpasol i fynd i’r afael â rhwystrau – o feithrin hyder i hyfforddiant sgiliau yn y gwaith. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn cyrraedd eu cyflogwr newydd yn barod i weithio ac yna’n parhau i ffynnu.   

Y Warant Swyddi yw’r ymyriad diweddaraf yng nghymorth cyflogaeth helaeth a pharhaus Llywodraeth y DU i bobl ifanc, ac mae’n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £2.5 biliwn. Mae’n gam mawr yn ymgyrch y Prif Weinidog i gael mwy o bobl ifanc i mewn i waith ac i ddod â gobaith i’r 56,000 a mwy o bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt yn ennill cyflog nac yn dysgu.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden:  

Mae pobl ifanc eisiau symud ymlaen mewn bywyd ond mae gormod ohonynt wedi cael eu hamddifadu o’r cyfle hwnnw ers amser rhy hir. Mae’r Warant Swyddi yn helpu i newid hynny.  

Mae gweld y bobl ifanc gyntaf yng Nghymru yn dechrau ar eu swyddi yn dod â hanfod y cynllun hwn yn fyw: swyddi go iawn, cyflogau go iawn, a llwybr go iawn at yrfa.   

Wrth i ni gyflwyno hyn i ddegau o filoedd yn fwy o bobl ifanc yng Nghymru a ledled y wlad, rydyn ni’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf i lwyddo ac yn cefnogi busnesau Prydain i dyfu gyda’r doniau sydd eu hangen arnyn nhw.”   

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Kinnock: 

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein hymddiriedaeth mewn pobl ifanc yng Nghymru.

Bydd y Warant Swyddi yn helpu pobl ifanc yng Nghymru i gyflawni’r cam cyntaf hollbwysig hwnnw ar yr ysgol yrfa, gan eu helpu i feithrin hyder a sgiliau gyda llwybr uniongyrchol i fyd gwaith.

Mae’r cynllun yn un o blith nifer o fesurau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i roi hwb i gyflogaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Mae 20 o Ganolfannau Ieuenctid yn cael eu cyflwyno ledled y wlad i gefnogi pobl i gael gwaith, gyda’r Grant Swyddi i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i helpu busnesau i gyflogi pobl ifanc.” 

Cyflwynwyd un o’r cynlluniau peilot Gwarant Swyddi cyntaf yn Ne Ddwyrain a De Orllewin Cymru.

Yn ddiweddarach eleni, bydd y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pob person ifanc 18–24 oed cymwys sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd wedi bod yn chwilio am waith ers 18 mis.    

Bydd partneriaid cyflenwi lleol yn gweithio gyda chyflogwyr i baru pobl ifanc â swyddi a darparu cefnogaeth barhaus i helpu’r lleoliadau gwaith i lwyddo.  

Mae’r Warant Swyddi yn rhan o fuddsoddiad ehangach Llywodraeth y DU o £2.5 biliwn mewn cyflogaeth ieuenctid a fydd yn cefnogi bron i filiwn o bobl ifanc ac yn creu 500,000 o gyfleoedd i ennill neu ddysgu dros dair blynedd, gan ledaenu’r cyfle i bob cod post.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Awst 2026