Datganiad i'r wasg

Hwb swyddi i’r sector peirianneg yng Nghymru

Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru: Buddsoddiad trenau CAF yn ‘gymeradwyaeth gref’ o sylfaen sgiliau ac amgylchedd busnes Cymru.

Mae Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF), gwneuthurwr trenau o Sbaen, wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw (13 Gorffennaf) i greu 300 o swyddi mewn ffatri newydd ar hen safle gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd, lle bydd yn adeiladu trenau a thramiau ar gyfer rhwydwaith y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni wedi darparu trenau i’r Deyrnas Unedig o’i ffatrïoedd yn Sbaen yn flaenorol, ac edrychodd ar fwy na 100 o leoliadau ledled y Deyrnas Unedig cyn dewis ei leoliad yng Nghasnewydd oherwydd ei gysylltiadau trafnidiaeth a mynediad at gronfa o weithwyr medrus iawn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyhoeddiad am y cyfleuster gweithgynhyrchu newydd hwn yn newyddion gwych i Gasnewydd, a bydd yn cael ei groesawu gan bawb sydd am weld sector gweithgynhyrchu ffyniannus yng Nghymru. Mae’n golygu y bydd hyd at 300 o swyddi crefftus newydd yn cael eu creu yn y ffatri, y potensial i filoedd o swyddi gael eu sicrhau yn y gadwyn gyflenwi, a dechrau ar bennod newydd i’r safle gweithgynhyrchu pwysig hwn yn ne Cymru.

Mae’n rhaid i ni barhau i fod yn uchelgeisiol dros Gymru, a gwneud y wlad hon yn gyrchfan ddeniadol i fuddsoddwyr. CAF yw’r cwmni mawr diweddaraf i fuddsoddi yng Nghymru, ac unwaith eto mae’n gadarnhad cryf o’r sylfaen sgiliau a’r amgylchedd busnes rydym yn eu meithrin yma. Rydym yn agored ar gyfer busnes o ddifrif, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleuster newydd yn datblygu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF yn y Deyrnas Unedig:

Mae CAF yn ymateb i alwadau a wnaed gan ei gwsmeriaid, sy’n gofyn am drenau Prydeinig wedi eu gweithgynhyrchu gan weithwyr ym Mhrydain gan ddefnyddio cyflenwyr o Brydain.

Bydd y ffatri newydd yn fwy na 46,000 metr sgwâr a bydd yn cyflogi 200 o bobl pan fydd yn agor yn ystod hydref 2018, gan godi i 300 yn 2019. Bydd y cyfleuster yn galluogi adeiladu amrywiaeth o drenau gwahanol, gan gynnwys tramiau, trenau maestrefol a metro a threnau cyflymder uchel. Mae CAF yn bwriadu dechrau recriwtio pobl i weithio yn y ffatri yn ystod gwanwyn 2018 a bydd yn cynnig cynlluniau hyfforddi a phrentisiaethau o hydref 2018 ymlaen.

Cyhoeddwyd ar 13 July 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2017 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.