Gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i siaradwyr Cymraeg
Lansio llinellau ffôn Cymraeg newydd i helpu’r rhai hynny sy’n defnyddio ein gwasanaethau

Mae rhifau ffôn newydd wedi cael eu cyflwyno yng Nghymru ar gyfer siaradwyr Cymraeg i gyd-fynd ȃ lansio Canolfannau Gwasanaethau y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd fydd yn agor ym mis Ionawr.
Bydd galwadau ffôn a wneir gan siaradwyr Saesneg yn cael eu hateb yn un o Ganolfannau Gwasanaethau newydd y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd a bydd y ddau gyntaf yn agor ym mis Ionawr 2019 yn Stoke-on-Trent a Birmingham. Bydd y rhain yn delio ȃ phrosesau gweinyddol llysoedd a thribiwnlysoedd a’r canolfannau hyn fydd y pwynt cyswllt cyntaf i’r cyhoedd sydd eisiau gwybodaeth am eu hachosion- a fydd yn galluogi i alwadau, negeseuon e-bost ac ymholiadau gael eu hateb yn gyflymach a chywirach. Gall siaradwyr Cymraeg barhau i siarad ȃ’n tîm yn Gymraeg drwy ffonio’r llinellau gwasanaeth isod sydd nawr ar gael:
Gwasanaeth Cymraeg | Rhif cyswllt |
Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant | 03003035170 |
Ysgariad | 03003035171 |
Canolfan Gwasanaeth Un Ynad (ymholiadau yn cynnwys DVLA, Trwyddedu Teledu) | 03003035172 |
Gwasanaeth Rheithgor | 03003035173 |
Hawliadau Arian Sifil | 03003035174 |
Dirwyon/Cosbau Penodedig | 03003035175 |
Apeliadau Tribiwnlys Cyflogaeth | 03003035176 |
Gwrandawiadau Fideo | 03003035177 |
Cymorth Digidol (darparu cymorth i sicrhau mynediad at wasanaethau ar-lein) | 03003035179 |
Profiant | 03003030654 |
Llys Ynadon | 03003035178 |
Gallwch ddarllen mwy am ein gwasanaethau newydd.
Bydd galwadau i’r llinellau gwasanaeth newydd yn cael eu hateb gan ein tîm yn Uned yr Iaith Gymraeg yng Nghanolfan Cyfiawnder Caernarfon. Mae’r llinellau gwasanaeth newydd yma yn rhan o’r £1 biliwn sydd yn cael ei fuddsoddi mewn trawsnewid y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd, i wneud y system gyfiawnder yn symlach i gael mynediad iddi, yn fwy cyfleus i’w defnyddio ac yn fwy effeithlon i’w rhedeg; drwy ddefnyddio technoleg i ddod a phrosesau cyfiawnder i’r unfed ganrif ar hugain.
Mae’r gwasanaeth newydd hwn wedi cael ei sefydlu yn unol ȃ’n Cynllun Iaith Gymraeg, y bu i ni ei gyhoeddi ym mis Mai eleni.
Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ddiwygio a phrosiectau eraill sydd ar y gweill ar hyn o bryd gweler tudalen ein rhaglen ddiwygio ar GOV.UK