Stori newyddion

Hwb enfawr i orsaf niwclear Wylfa Newydd

Mae llofnodi cytundeb gyda Hitachi a Horizon i gefnogi datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn yn arwydd clir o ymrwymiad y Llywodraeth i bŵer niwclear newydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The current Wylfa nuclear power station

The current Wylfa nuclear power station

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod wedi llofnodi cytundeb gyda Hitachi a Horizon i gefnogi rhoi cyllid ar gyfer datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa drwy gynllun Gwarant y DU, yn amodol ar sêl bendith gweinidogol a diwydrwydd dyladwy terfynol.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddi’r Cynllun Seilwaith Cenedlaethol heddiw yn dangos bod y Llywodraeth hon yn cyflawni dros Gymru, gan wella rhwydweithiau seilwaith Cymru a rhoi sicrwydd i gwmnïau sy’n ystyried buddsoddi yng Nghymru.

Yn dilyn ein cyhoeddiad ynghylch Hinkley Point ym mis Hydref, mae cyhoeddiad heddiw yn dangos ymrwymiad cadarn a pharhaus y Llywodraeth hon i bŵer niwclear newydd yn y DU, ac i gefnogi buddsoddiad Hitachi yn Wylfa Newydd.

Bydd y buddsoddiad yn dod â buddion sylweddol i’r economi yng Nghymru, ac i economi Ynys Môn yn arbennig, ar ffurf cyfleoedd cadwyn cyflenwi a gwaith o ansawdd uchel y mae taer eu hangen.

Delwedd drwy garedigrwydd Eifion ar Flickr.

Cyhoeddwyd ar 4 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 December 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.