Stori newyddion

HSBC a sylfaenwyr busnes llwyddiannus yn lansio Entrepreneurs Exchange

Bydd y sgyrsiau am ddim, a gefnogir gan HSBC, yn caniatáu i entrepreneuriaid wneud cysylltiadau a datblygu rhwydweithiau gyda sylfaenwyr busnes yn eu rhanbarth.

Ddoe, lansiodd HSBC raglen Entrepreneurs Exchange, mewn partneriaeth â dros 40 o sylfaenwyr busnes mwyaf llwyddiannus y DU. Dyma gyfle i entrepreneuriaid sy’n dymuno datblygu eu busnesau i gael ysbrydoliaeth, cael cyngor ymarferol a datblygu rhwydweithiau hanfodol gydag entrepreneuriaid eraill mewn digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled y DU.

Ar 18 Mai, am ddiwrnod yn unig, bydd yr arweinwyr busnes arloesol hyn, sydd â phrofiad rhyngwladol ym myd technoleg, e-fasnach, ffasiwn ac adwerthu, bwyd a diod, gwasanaethau, hamdden a thu hwnt, yn rhannu eu gwybodaeth mewn 20 o sgyrsiau am ddim mewn dinasoedd ar hyd a lled y DU fel rhan o’r rhaglen Entrepreneurs Exchange.

Yng Nghymru, bydd Laura Tenison MBE, sylfaenydd JoJo Maman Bébé, a Rachel Flanagan, sylfaenydd Mrs Bucket, yn rhannu eu gwybodaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn cael clywed sut gwnaethant ddechrau a datblygu eu busnesau, yr heriau maent wedi’u goresgyn i sicrhau llwyddiant, a’r cyngor a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol iddynt pan oeddent yn dechrau ym myd busnes.

Bydd y sgyrsiau am ddim, a gefnogir gan HSBC, yn caniatáu i entrepreneuriaid wneud cysylltiadau a datblygu rhwydweithiau gyda sylfaenwyr busnes yn eu rhanbarth. Cynhelir y digwyddiadau i gyd am 6pm a byddant yn para tan 8:30pm.

Mae’r digwyddiad am ddim ac ar agor i bawb, er mwyn i bawb a fydd yno ddatblygu rhwydweithiau gydag entrepreneuriaid eraill o’r un anian yng Nghymru.

Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Anna Soubry AS, y Gweinidog Busnesau Bach, Diwydiant a Menter:

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi sy’n tyfu, ac mae’r Llywodraeth yn parhau i’w cefnogi drwy gael gwared ar fiwrocratiaeth, gostwng trethi busnes a darparu rhagor o gyfleoedd am gyllid.

Ond y bobl sy’n gwneud busnes yw’r rhai sy’n gwybod beth sydd orau i fusnes. Bydd digwyddiadau Entrepreneurs Exchange yn gyfle gwych i’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ddatblygu rhwydweithiau gwerthfawr a chlywed gan y rheini sydd wedi bod yn yr un sefyllfa ac sy’n gwybod sut mae llwyddo.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ardal HSBC yng Nghaerdydd, Warren Lewis:

Mae sector busnes cadarn yn hanfodol ar gyfer twf unrhyw economi ranbarthol, gyda chefnogaeth entrepreneuriaid lleol sy’n creu swyddi ac sy’n buddsoddi yn y dyfodol.

Mae Cymru’n cynnig amgylchedd lle gall busnesau ffynnu ac rydyn ni’n falch o weld cynifer o’n hentrepreneuriaid lleol yn dod yn arweinwyr yn y gymuned.

Rydyn ni’n hyderus y bydd y digwyddiadau hyn yn helpu darpar entrepreneuriaid i wireddu eu huchelgais fusnes drwy gael arweiniad arbenigol gan ddau o berchnogion busnes mwyaf llwyddiannus y DU.

Mae Entrepreneurs Exchange yn rhaglen dan arweiniad busnesau, gan entrepreneuriaid ac ar gyfer entrepreneuriaid. Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau, mae: Pret a Manger ac Itsu; Lastminute.com; Moonpig.com; Jo Malone; Tangle Teezer; Cobra Beer; Ultimo lingerie; Gu puddings; Not on the High Street; a Leon.

Cynhelir y digwyddiadau mewn 20 o leoliadau yn: Belfast, Birmingham, Brighton, Bryste, Caergrawnt, Caerdydd, Caeredin, Exeter, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Llundain, Manceinion, Newcastle, Norwich, Nottingham, Rhydychen, Reading a Southampton.

Gall entrepreneuriaid gofrestru yn: www.entrepreneurs-exhange.co.uk. Mae rhestr lawn o’r siaradwyr a’u bywgraffiadau, manylion am y lleoliadau a rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan. Mae’r lleoedd am ddim, ond dim ond hyn a hyn ohonynt sydd ar gael.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2016