Stori newyddion

Sut i herio’ch band Treth Gyngor: canllaw cam wrth gam

Dysgwch sut i herio’ch band Treth Gyngor gyda chamau clir i’ch tywys drwy’r broses.

Cyfrifoldeb Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yw sicrhau bod 27 miliwn o eiddo ledled Cymru a Lloegr yn y band Treth Gyngor cywir.

Rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n herio eu band dros y misoedd nesaf, wrth i filiau Treth Gyngor gael eu dosbarthu.

Os ydych yn cael trafferth talu eich bil Treth Gyngor, dylech gysylltu’n gyntaf â’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg). Efallai y bydd yn gallu cynnig cymorth, megis gostyngiadau, rhyddhadau, neu gynlluniau talu.

Os ydych yn meddwl herio eich band Treth Gyngor, mae rhai meysydd i’w hystyried. Ymysg yr ystyriaethau mae eich hawliau cyfreithiol a’r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu.

Bydd ein canllaw cam wrth gam yn eich helpu i ddysgu mwy am y broses a phenderfynu a ydych am herio eich band.

Deall eich opsiynau

Mae dau fath o her band – cynigion ac adolygiadau band. Mae’r math o her y gallwch ei gyflwyno yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Cynigion – gallwch wneud cynnig os ydych wedi bod yn talu’r Dreth Gyngor ar eich eiddo am lai na chwe mis, os yw’r VOA wedi newid eich band yn ystod y chwe mis diwethaf, neu os bu newid ffisegol i’ch ardal leol. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i ni adolygu eich band os byddwch chi’n cyflwyno cynnig. Gallwch hefyd wneud cynnig os ydych am dynnu eiddo oddi ar Restr y Dreth Gyngor, a gellir dod o hyd i ragor o arweiniad am hyn ar GOV.UK.
  • Adolygiadau band – os ydych wedi bod yn talu’r Dreth Gyngor am fwy na chwe mis ac yn meddwl bod eich band yn anghywir, gallwch ofyn am adolygiad band anffurfiol. Er nad oes angen i ni ystyried yr achosion hyn yn ôl gofynion y gyfraith, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod cwsmeriaid yn y band cywir. Pan fo tystiolaeth ategol gref sy’n dangos bod band yn anghywir, byddwn yn cymryd yr achosion yma ymhellach.

Os ydych yn ystyried herio’ch band, mae rhai camau allweddol i’w dilyn.

1. Gwirio’ch band Treth Gyngor

Y cam cyntaf yw gwirio bandiau Treth Gyngor eich eiddo chi ac eiddo eich cymdogion ar GOV.UK.

Bydd hyn yn eich helpu i sylwi ar unrhyw wahaniaethau.

Mae’n bwysig cadw mewn cof nad yw gwahaniaethau bob amser yn golygu bod eich band yn anghywir. Mae sawl rheswm posibl dros hyn.

Mae pob band Treth Gyngor yn cwmpasu ystod o werthoedd. Mae’n golygu y gellir gosod eiddo o fathau gwahanol a chyda gwerthoedd gwahanol yn yr un band.

Efallai y bydd rhai eiddo sy’n edrych yr un fath o’r tu allan wedi cael eu hadnewyddu ond heb gael eu gwerthu eto. Hefyd, efallai bod gan eiddo nodweddion gwahanol y tu mewn, sy’n golygu eu bod yn aros yn yr un band.

2. Casglwch dystiolaeth i ategu eich her

Ein nod syml yw bod pob cwsmer yn y band Treth Gyngor cywir. Nid yw hynny’n golygu bod gan bawb hawl gyfreithiol i herio eu band Treth Gyngor, nac ei bod yn ofynnol i ni ystyried pob cais sy’n dod i law.

Os nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio, yr unig hawl sydd gennych ydy gofyn am adolygiad band. Os ydych yn gofyn am adolygiad band, mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth sy’n dangos bod eich band yn anghywir.

Mae hyn yn ein helpu i adnabod pa adolygiadau band yw’r mwyaf tebygol o arwain at newid band. Yna, gallwn adolygu unrhyw gamgymeriadau posibl a delio ag achosion yn effeithiol.

Fel arfer, y dystiolaeth a ddefnyddir yw hyd at bum eiddo sy’n debyg i’ch eiddo chi (a elwir weithiau yn eiddo y gellir eu cymharu neu eiddo cymharol).

Rydym yn ystyried pedwar prif faes wrth benderfynu a ellir cymharu eiddo:

  • lleoliad
  • math
  • oedran
  • maint

Darllenwch ein blog tystiolaeth am arweiniad pellach ynghylch yr hyn sy’n gwneud eiddo yn eiddo y gellir eu cymharu.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwybodaeth werthu fel tystiolaeth. Er mwyn cael ei ystyried yn dystiolaeth ddilys, mae’n rhaid i’ch eiddo chi neu’r eiddo tebyg fod wedi’i werthu rhwng y dyddiadau canlynol:

  • ar gyfer Cymru: 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2003
  • ar gyfer Lloegr: 1 Ebrill 1989 a 31 Mawrth 1993

Darllenwch fwy am ddefnyddio tystiolaeth o brisiau tai.

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol gref er mwyn i ni dderbyn cais am adolygiad band. Heb y dystiolaeth hon, ni fyddwn yn gallu adolygu eich band.

Nid oes angen i chi gyflwyno tystiolaeth i ategu cynnig. Os ydych chi’n gwneud cynnig oherwydd bod angen dileu band eich eiddo, darllenwch ein harweiniad ar dynnu eiddo oddi ar y rhestr Treth Gyngor am ragor o wybodaeth.

3. Cyflwyno’ch her

Unwaith y byddwch wedi casglu eich tystiolaeth, gallwch gyflwyno’ch her. Gallwch wneud hyn drwy’r gwasanaeth ar-lein.

Gallwch hefyd gyflwyno’ch her drwy e-bost neu lythyr.

Mae ein ffurflen ar-lein ar gael i’r sawl sy’n gwneud cynigion.

4. Aros am benderfyniad

Ar ôl i chi gyflwyno eich her, byddwn yn adolygu eich tystiolaeth ac yn gwneud penderfyniad.

Mae tri chanlyniad posibl wrth gyflwyno her: gall eich band fynd i fyny, mynd i lawr, neu aros yr un fath. Efallai y byddwn hefyd yn adolygu bandiau eiddo cyfagos tebyg i wirio eu bod yn gywir, sy’n golygu y gallai bandiau Treth Gyngor yr eiddo hyn gael eu symud i fyny neu i lawr hefyd.

Y cyngor lleol fydd yn delio ag unrhyw newidiadau i’ch bil.

Rydym yn derbyn nifer uchel o ymholiadau Treth Gyngor yr adeg hon o’r flwyddyn. Rydym yn blaenoriaethu cynigion oherwydd bod gan gwsmeriaid hawl gyfreithiol i herio eu band Treth Gyngor yn yr achosion hyn. Dysgwch ragor am faint o amser mae’n ei gymryd ar hyn o bryd i ni ddelio â chynigion Treth Gyngor ac adolygiadau o’r bandiau.

Mae’n rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth Gyngor fel arfer tra byddwch yn aros am benderfyniad. Gallai peidio â thalu arwain at gosbau neu gamau gorfodi gan eich cyngor lleol. Byddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw ordaliadau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.