Datganiad i'r wasg

Incwm aelwydydd yn cynyddu yng Nghymru

Stephen Crabb: “Gwobrwyo gwaith drwy helpu pobl i gadw mwy o’r arian a enillant yw hanfod ein cynllun i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio’n galed"

Gwelwyd mwy o gynnydd mewn incwm gwario aelwydydd yng Nghymru nag yn unrhyw ranbarth arall yn y DU rhwng 2010-13, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddir heddiw (27 Mai).

Bu cynnydd o 7% mewn incwm gwario, y pen, yng Nghymru, yn ôl ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Gwobrwyo gwaith drwy helpu pobl i gadw mwy o’r arian a enillant yw hanfod ein cynllun i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio’n galed.

Drwy gynyddu’r lwfans personol yn y Senedd ddiwethaf, cawsom wared â threth miloedd o bobl Cymru. Rydym yn bwriadu ei gynyddu hyd yn oed ymhellach, ac mae ein clo pum-mlynedd yn golygu na fydd unrhyw gynnydd mewn treth, TAW nac Yswiriant Gwladol yn ystod oes y Senedd hon.

Mae incwm gwario yng Nghymru’n dechrau dal i fyny â rhannau eraill y DU. Mae hwn yn newyddion da, ac yn dystiolaeth bod mwy o bobl yng Nghymru yn elwa o’n polisïau economaidd.

Cyhoeddwyd ar 27 May 2015