Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi data newydd ar ymholiadau y gellir eu hosgoi i helpu i leihau oedi
Mae’r data diweddaraf yn cefnogi ymdrechion parhaus i wella ansawdd ceisiadau a lleihau ymholiadau y gellir eu hosgoi.
Cipolwg
- Mae’r drydedd set ddata yn rhoi gwybodaeth newydd i drawsgludwyr i helpu i wella ansawdd ceisiadau a lleihau oedi y gellir ei atal wrth gofrestru.
- Mae dadansoddiad ehangach yn dangos yr anfonwyd tua 400,000 yn llai o bwyntiau ymholiad y gellir eu hosgoi yn 2025 nag yn 2022 – gostyngiad o 47.7%.
- Mae Cofrestrfa Tir EF yn annog cwmnïau i ddefnyddio eu data ochr yn ochr â chanllawiau a hyfforddiant am ddim i fynd i’r afael â phroblemau sy’n codi dro ar ôl tro.
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi cyhoeddi ei thrydedd set ddata ar ymholiadau y gellir eu hosgoi heddiw, gan roi gwybodaeth wedi ei diweddaru i drawsgludwyr a chwmnïau cyfreithiol i helpu i atal gwallau a hepgoriadau mewn ceisiadau sy’n aml yn achosi oedi wrth gofrestru ac yn creu gwaith ychwanegol iddynt.
Mae’r data yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2026 a’i fwriad yw helpu cwmnïau i adolygu ansawdd eu ceisiadau a chanolbwyntio eu gwiriadau, eu hyfforddiant a’u prosesau sicrhau ansawdd lle y gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf. Daw hyn wrth i ddadansoddiad ehangach Cofrestrfa Tir EF ddangos cynnydd parhaus o ran lleihau pwyntiau ymholiad y gellir eu hosgoi er 2022.
Cais am ragor o wybodaeth neu am gamau i’w cymryd cyn y gellir cwblhau cais yw ymholiad. Mae pwyntiau y gellir eu hosgoi yn ymwneud â gwallau neu hepgoriadau y gellid bod wedi eu hatal fel rheol cyn cyflwyno’r cais, er enghraifft tystiolaeth hunaniaeth sydd ar goll, anghysondebau mewn enwau, cynlluniau aneglur neu ddogfennau ategol sydd ar goll. Gall un ymholiad gynnwys mwy nag un pwynt.
Gostyngodd nifer blynyddol y pwyntiau ymholiad y gellir eu hosgoi yn gyffredinol o tua 839,000 yn 2022 i 439,000 yn 2025 – gostyngiad o 47.7%. Ar ôl addasu ar gyfer nifer y ceisiadau, gostyngodd y gyfradd 39.1%, gan ddangos nad dim ond y gostyngiad yn nifer y ceisiadau oedd yn gyfrifol am y gwelliant.
Parhaodd y duedd gadarnhaol rhwng Ionawr a Medi 2026, gyda thua 94 o bwyntiau y gellir eu hosgoi yn cael eu hanfon am bob 1,000 o geisiadau – gostyngiad o 11% yn y gyfradd o gymharu â 2025. Mae’r cynnydd hwn yn adlewyrchu ymdrechion ar y cyd trawsgludwyr, timau ôl-gwblhau, cyrff y diwydiant a Chofrestrfa Tir EF. Darllenwch ragor yma: Ymholiadau y gellir eu hosgoi yn parhau i ostwng wrth inni weithio gyda’n gilydd.
Dywed Andrew Robertson, Pennaeth Polisi Cwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF:
Mae lleihau ymholiadau y gellir eu hosgoi yn gyflawniad ar y cyd. Mae trawsgludwyr, timau ôl-gwblhau a chyrff y diwydiant wedi gweithio gyda ni i wella ansawdd ceisiadau, gan helpu i leihau gwaith diangen ac oedi i bawb dan sylw.
Mae ein trydedd set ddata yn gyfle i adeiladu ar y cynnydd hwnnw. Rydym yn annog cwmnïau i ddefnyddio eu data i nodi problemau sy’n codi dro ar ôl tro a chanolbwyntio eu gwiriadau a’u hyfforddiant lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf. Byddwn yn parhau i wella ein canllawiau, ein gwasanaethau a chysondeb yr ymholiadau rydym yn eu hanfon.
Er gwaethaf y cynnydd, mae problemau y gellir eu hatal yn dal i achosi gwaith diangen. Gwybodaeth sydd ar goll neu’n aneglur yw’r categori eang mwyaf cyffredin o ymholiadau y gellir eu hosgoi bellach, a pheidio â darparu tystiolaeth hunaniaeth yw’r pwynt unigol mwyaf cyffredin y gellir ei osgoi.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn annog cwmnïau i archwilio’r rhesymau penodol dros eu hymholiadau a defnyddio’r ddealltwriaeth honno i gryfhau eu gwiriadau cyn cyflwyno ceisiadau. Mae canllawiau, gweithdai ac adnoddau hyfforddi am ddim ar gael i helpu, ochr yn ochr â gwaith parhaus o fewn Cofrestrfa Tir EF i wella cywirdeb a chysondeb ymholiadau. Am ragor o wybodaeth, gweler Ymholiadau y gellir eu hosgoi yn gostwng. Beth nesaf?
Nodiadau i olygyddion
- Daw’r ffigurau sy’n dangos y duedd rhwng 2022 a 2026 o ddadansoddiad ehangach Cofrestrfa Tir EF a gyhoeddwyd yn ei blogiau yn Hydref 2026 (gweler pwynt 5 isod). Ni ddylid eu disgrifio fel cymhariaeth o’r tair set ddata a gyhoeddwyd nac fel canfyddiadau sy’n benodol i’r drydedd set ddata.
- Mae’r ffigurau yn cyfrif pwyntiau ymholiad y gellir eu hosgoi, nid ceisiadau unigol na llythyrau ymholiadau. Gellir codi mwy nag un pwynt mewn un ymholiad. Nid yw cyfradd o 94 o bwyntiau am bob 1,000 o geisiadau yn golygu bod 9.4% o geisiadau wedi cael ymholiad y gellir ei osgoi.
- Mae’r ffigurau wedi eu talgrynnu fel y’u cyflwynir yn y blog ffynhonnell. Mae’r gostyngiadau o 47.7% a 39.1% a nodir yn defnyddio’r dadansoddiad ffynhonnell; mae’r ail yn addasu ar gyfer nifer y ceisiadau.
- Rydym wedi anfon ebost at Berson Cyfrifol pob cwmni – y person sy’n goruchwylio ei gyfrif ar-lein gyda Chofrestrfa Tir EF – gyda gwybodaeth fanylach am y pwyntiau ymholiad y mae’r cwmni wedi eu cael.
- Cefndir: Ymholiadau y gellir eu hosgoi yn parhau i ostwng wrth inni weithio gyda’n gilydd, a gyhoeddwyd ar 12 Hydref 2026, ac Ymholiadau y gellir eu hosgoi yn gostwng. Beth nesaf?, a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2026.
- Mae cymorth ymarferol ar gael trwy Hyb hyfforddi Cofrestrfa Tir EF, gan gynnwys adnodd penodol: Mynd i’r afael ag ymholiadau y gellir eu hosgoi.