Llogi car i’ch priodas
Mae arolwg diweddar DVLA wedi dangos bod 77% o yrwyr wedi teithio i’w priodasau eu hun mewn car.

Roedd Rolls-Royce, Bentley a Daimler ymysg y dewisiadau mwyaf poblogaidd o geir moethus wrth briodi, gyda chabiau du, injan dân a hyd yn oed bygi golff yn sefyll allan fel y dewisiadau gwahanol o gyrraedd ar eu diwrnod mawr.
Tra bod tua 70% wedi dweud eu bod wedi cael eu hunion ddewis o drafnidiaeth, ymddangosodd ceffyl a cherbyd fel y dewis delfrydol – efallai wedi eu hysbrydoli gan y cwpl brenhinol – i’r rhai a oedd wedi ffafrio cael rhywbeth gwahanol. Dywedodd eraill y byddent wedi hoffi cyrraedd mewn modd mwy dramatig, yn ffafrio bws yr oes a fu, hofrennydd, neu hyd yn oed cwch modur.
Mae penderfynu sut i gyrraedd – a phwy fydd yn gyrru – yn rhan allweddol o unrhyw restr wirio priodas. Ond nid oedd tua 37% yn sylweddoli bod y ffordd gyflymach a hawsach i weld neu rannu gwybodaeth trwydded yrru wrth logi car oedd trwy ddefnyddio gwasanaeth Gweld a Rhannu trwydded yrru DVLA.
Gyda chymaint o waith paratoi yn arwain lan at y diwrnod mawr, gall y gwasanaeth hwn cymryd i ffwrdd llawer o’r drafferth i bwy bynnag sy’n gyrru – pa un ai bod nhw’n llogi Rolls Royce Silver Shadow 1976, Ford Capri neu’r Audi R8 diweddaraf.
Esboniodd Dudley Ashford, Pennaeth Gwasanaethau Gyrwyr:
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA i weld eich cofnod gyrru, ac i ddarganfod pa fathau o gerbyd gallwch yrru. Gallwch hefyd gwirio unrhyw bwyntiau cosb neu waharddiadau. Mae’n hefyd y ffordd symlach i’r person sy’n gyrru ar y diwrnod mawr i rannu eu cofnod gyrru gyda’r cwmni llogi car.
Gellir dod o hyd i’r wasanaeth yma.
Mae’r ystadegau a nodwyd yn seiliedig ar ymatebion i arolwg DVLA.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407