Datganiad i'r wasg

Mae helpu’r economi wledig mor bwysig ag erioed, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru yn y Sioe Frenhinol

Heddiw [19eg Gorffennaf 2011] yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, dywedodd David Jones fod helpu’r economi wledig i ffynnu ac i lwyddo mor …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [19eg Gorffennaf 2011] yn Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, dywedodd David Jones fod helpu’r economi wledig i ffynnu ac i lwyddo mor bwysig ag erioed.

Roedd y Gweinidog yn ymweld a nifer o elusennau a mudiadau o Gymru, gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a gyflwynodd ymatebion i Dasglu Swyddfa Cymru ar yr Economi Wledig y llynedd. Roedd y Gweinidog hefyd yn awyddus i annog trigolion a busnesau mewn cymunedau gwledig i ddal ati i gyflwyno eu pryderon a’u hawgrymiadau i Swyddfa Cymru.

Dywedodd Mr Jones fod cyhoeddiad y Llywodraeth y byddai £57 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn band eang yn hwb derbyniol iawn i gymunedau gwledig, a bod helpu cymunedau gwledig i ffynnu mor bwysig ag erioed.  Canfu adroddiad y tasglu economi wledig fod mynediad at fand eang dibynadwy yn un o’r prif bryderon sy’n wynebu ffermwyr a busnesau gwledig yng Nghymru, ac roedd nifer o’r rhai a ymatebodd yn cwyno bod y cysylltiad yn araf neu’n anghyson, neu nad oedd cysylltiad ar gael o gwbl.

Dywedodd Mr Jones: “Bydd dyrannu bron i £57 miliwn ar gyfer band eang yng Nghymru yn hwb derbyniol iawn i gartrefi a busnesau sydd wedi dioddef band eang araf, neu ddim band eang o gwbl, yn y gorffennol. Yma yn Sioe Frenhinol Cymru, mae’n amlwg bod busnesau a mudiadau yn dod yn fwy a mwy ymatebol i anghenion defnyddwyr modern a thwristiaid yng Nghymru. 

“Mae mynediad at fand eang dibynadwy yn hanfodol ar gyfer busnesau amaethyddol ac ar gyfer ffermio, gan fod cyflenwyr a chwsmeriaid yn galw am wasanaethau ar-lein.  Yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain, nid rhywbeth dymunol yw band eang, ond rhywbeth sy’n hanfodol at ddibenion busnes a chymdeithasol. Bydd y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf yn helpu i sicrhau bod busnesau yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru hyd yn oed yn gallu parhau i dyfu”. 

“Efallai fod y Tasglu Economi Wledig yn dod i ben, ond nid dyma ddiwedd ein diddordeb yn y maes hwn.  Mae bywyd gwledig yn hollbwysig i Gymru, a bydd Swyddfa Cymru yn gwneud yn siŵr bod ei phryderon yn cael eu hadlewyrchu’n briodol wrth ddatblygu polisiau.  Mae’r economi wledig yn dal yn flaenoriaeth, ac mae fy nrws ar agor bob amser i fusnesau ac aelodau o’r gymuned sy’n awyddus i drafod eu pryderon a’u hawgrymiadau.”

Dywedodd Glyn Roberts, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru: “Mae llawer iawn o bobl yn y DU yn cymryd band eang yn ganiataol, ond eto, mae ardaloedd eang iawn yng Nghymru yn methu cael mynediad at y gwasanaeth pwysig hwn. Mae hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd busnes i ffermydd a busnesau gwledig yng Nghymru, a hefyd yn ei gwneud yn anodd iawn bodloni gofynion y Llywodraeth, sy’n cael eu cynnig ar-lein fwy a mwy y dyddiau hyn.

“Felly mae unrhyw gamau i roi sylw i’r mater hwn yn dderbyniol iawn, ac yn cyd-fynd a’r hyn rydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro.”

Dyma ail ymweliad Mr Jones a’r Sioe Frenhinol fel Gweinidog Swyddfa Cymru. 

Ychwanegodd Mr Jones: “Sioe Frenhinol Cymru yw’r uchafbwynt i gymunedau gwledig, ac mae’n ddiwrnod gwych i dwristiaid ac i deuluoedd.   Mae’n rhoi llwyfan i’r cynnyrch ardderchog a’r wybodaeth arbenigol sydd ar gael, ac yn profi bod Cymru yn wlad wych i ymweld a hi ac i gynnal busnes.”

Nodiadau i olygyddion:** **

1.)  Gellir gweld fersiwn lawn o Adroddiad Tasglu Swyddfa Cymru ar yr Economi Wledig ar wefan Swyddfa Cymru yn www.swyddfacymru.gov.uk.

2.)   Ar 12fed Gorffennaf, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai £47 miliwn ychwanegol (dros y £10 miliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor fis Chwefror) yn cael ei fuddsoddi mewn band eang ar gyfer cymunedau gwledig Cymru.

    3.)  Mae’r Llywodraeth yn awyddus i’r DU gael rhwydwaith band eang cyflym iawn - y gorau yn Ewrop - erbyn 2015, gyda 90 y cant o gartrefi a busnesau ym mhob ardal awdurdod lleol yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn, a phawb yn y DU yn cael mynediad at o leiaf 2Mbps.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2011