Datganiad i'r wasg

Cymorth i Brynu: yn rhoi cymorth i 2,500 brynu cartref newydd yng Nghymru

Alun Cairns: Perchnogaeth ar gartref yn rhan allweddol o gynllun economaidd Llywodraeth y DU

Help to Buy

Mae nifer y bobl sydd wedi cael cymorth gan gynllun tai blaenllaw Llywodraeth y DU i fynd ar ysgol dai yng Nghymru wedi cyrraedd 2,500.

Mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw (9 Medi) yn dangos bod y cynllun gwarant morgais Cymorth i Brynu wedi helpu 2,626 o bobl yng Nghymru i wireddu eu huchelgais o brynu cartref newydd.

Lansiwyd Cymorth i Brynu gan Lywodraeth y DU yn 2013 i gefnogi pobl weithgar a oedd yn gallu talu morgais ond yn methu fforddio’r blaendaliadau uchel yr oedd y benthycwyr yn gofyn amdanynt.

Ers i’r cynllun gael ei lansio, mae wedi helpu bron 120,000 o bobl ar hyd a lled y DU i gamu ar yr ysgol eiddo a’i dringo.

Bydd prynwyr am y tro cyntaf yng Nghymru yn cael hwb ychwanegol gan yr ISA Cymorth i Brynu a gynigir gan fanciau a chymdeithasau adeiladu ledled y DU o 1 Rhagfyr ymlaen. Dan y cynllun hwnnw, bydd prynwyr am y tro cyntaf yn cael cynilo hyd at £200 y mis tuag at eu cartref cyntaf a bydd y llywodraeth yn rhoi bonws o 25%, neu £50 am bob £200 hyd at £3000, fel hwb i’w cynilon.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne:

Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i helpu pobl i gyflawni’u huchelgais o brynu eu cartref eu hunain, ac mae ein cynlluniau Cymorth i Brynu erbyn hyn wedi helpu bron i 120,000 o bobl sy’n gweithio ledled y DU i wneud yn union hynny.

Mae’r system ariannol a’r economi cryfach yn golygu ein bod yn disgwyl i’r banciau dynnu allan o’n cynllun Morgais Cymorth i Brynu’ Fe’i cyflwynwyd mewn cyfnod o drallod ariannol a bydd yn dod i ben beth bynnag ddiwedd flwyddyn nesaf.

Mae’r cynllun rhannu ecwiti Cymorth i Brynu yn mynd o nerth i nerth, a bydd ein ISA Cymorth i Brynu newydd y byddwn yn ei lansio ym mis Ionawr yn rhoi cymorth hael i’r rheini sy’n cynilo i brynu eu cartref cyntaf wrth i’r llywodraeth roi hwb iddynt ar gyfer eu blaendal.

Mae cefnogi pobl sydd yn awyddus i weithio’n galed, i gynilo ac i brynu eu cartref eu hunain yn rhan allweddol o’n cynllun hirdymor i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl sy’n gweithio ar bob cam yn eu bywydau, ledled y DU. Mae Cymorth i Brynu hefyd yn rhoi hwb i ddiogelwch economaidd y wlad drwy ysgogi cynnydd yn nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu ym Mhrydain, gan greu swyddi a sicrhau bod cyflenwad o dai ar gael yn yr hirdymor.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Am ormod o amser, mae pobl weithgar sy’n addas i gael credyd yng Nghymru wedi methu gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Mae Cymorth i Brynu yn newid hynny.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cynllun gwarant morgais wedi rhoi help llaw hollbwysig i filoedd o unigolion a theuluoedd ledled Cymru i fynd ar risiau cyntaf yr ysgol dai. O fis Rhagfyr eleni ymlaen, disgwyliwn i’r ffigyrau hyn godi eto oherwydd yr ISA Cymorth i Brynu a fydd yn rhoi hwb gan y llywodraeth i’r rhai sy’n cynilo blaendal tuag at eu cartref cyntaf.

Mae bod yn berchen ar gartref yn rhan allweddol o gynllun hirdymor y llywodraeth hon i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl sy’n gweithio ledled y DU. Gyda’r cymorth i brynwyr, gall mwy o bobl yng Nghymru elwa ar y sicrwydd a’r cyfle sy’n dod o gael yr allweddi i’ch cartref cyntaf.

Cyhoeddwyd ar 9 September 2015