Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi prif siaradwyr Uwchgynhadledd Twf Hafren

Arweinwyr busnes ac awdurdodau o boptu’r ffin yn cefnogi digwyddiad Llywodraeth y DU

Severn Crossing

Mae arweinwyr busnes ac arweinwyr rhanbarthol blaenllaw yn cefnogi Uwchgynhadledd Twf Hafren Llywodraeth y DU a fydd yn archwilio sut y gellir cryfhau cysylltiadau rhwng economïau De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y gostyngiad diweddar yn nhollau Pontydd Hafren a phan fyddant yn cael eu dileu yn llwyr yn ddiweddarach eleni.

Gyda llai nac wythnos i fynd nes cynhelir y digwyddiad lle mae pob tocyn wedi’i archebu, heddiw cadarnhaodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns y rhestr o siaradwyr amlwg a fydd yn ymddangos ar y llwyfan i annerch y dyrfa o 350 ochr yn ochr ag ef yng Ngwesty’r Celtic Manor (22 Ionawr 2018).

Cadarnhawyd y siaradwyr canlynol heddiw:

  • Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros fenter ym Mhrifysgol De Cymru
  • Tim Bowles – Maer Dinesig Gorllewin Lloegr
  • Katherine Bennett – Uwch Is-Lywydd Airbus UK
  • Katharine Finn – Arweinydd Rhanbarthol PWC yng Nghymru a Gorllewin Lloegr
  • Yr Athro Colin Riordan – Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd aelod o gynghrair GW4
  • Y Cynghorydd Andrew Morgan – Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Grant Mansfield – Prif Weithredwr, Plimsoll Productions

Bydd yr Uwchgynhadledd yn dwyn ynghyd arbenigwyr o lywodraeth leol, addysg, y sectorau preifat ac academaidd o ddwy ochr afon Hafren, i rannu eu profiadau o gyd-weithio ar draws ffiniau a thrafod y weledigaeth ar gyfer cyfleoedd o ran twf pellach yn y dyfodol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydw i wrth fy modd bod y fath restr anrhydeddus o siaradwyr am ymuno â mi yn Uwchgynhadledd gyntaf Twf Hafren. Mae pob un yn cynrychioli busnesau, awdurdodau neu ddiwydiannau sydd wedi bod ar flaen y gad o ran cydweithredu ar draws ffiniau.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle perffaith iddynt gyfleu eu profiadau i gynulleidfa lawn dop, pob un ohonynt yn ceisio ehangu eu gorwelion ar draws aber Afon Hafren a thu hwnt.

Un o’r rhai a fydd ymysg y panel o chwech o arbenigwyr fydd Tim Bowles, Maer cyntaf Gorllewin Lloegr. Yn ystod ei yrfa mae wedi cyfuno rolau busnes rhyngwladol â gwasanaeth cyhoeddus yn y rhanbarth a bydd yn defnyddio llwyfan yr uwchgynhadledd i rannu ei wybodaeth i gefnogi busnesau ar ddwy ochr y ffin i gyflawni eu potensial o ran twf.

Dywedodd Tim Bowles, Maer Dinesig Gorllewin Lloegr:

Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Mae cysylltiadau cryf rhwng Gorllewin Lloegr a De Cymru, ac mae’r ddwy ardal yn rhannu sawl nod - mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio er budd ein holl drigolion.

Yn ymuno â Mr Bowles ar y panel bydd Katherine Bennet, Uwch Is-Lywydd Airbus UK, cwmni byd-eang sydd â phresenoldeb sylweddol ym Mryste a Chasnewydd a phrofiad gwerthfawr o weithio trawsffiniol ar draws aber Afon Hafren.

Katherine Bennett – Uwch Is-Lywydd Airbus UK

Mae cael ecosystem ranbarthol gref o gyflenwyr, partneriaid a chydweithredwyr academaidd yn allweddol i lwyddiant Airbus. Rhaid i ni sicrhau bod y cryfderau rhanbarthol sy’n bodoli yn Ne Cymru a Gorllewin Lloegr yn enwedig yng nghyswllt awyrofod, amddiffyn a thechnolegau digidol yn cael eu gwella drwy gydweithio a chreu strategaeth glir ar gyfer twf rhanbarthol.

Mae Airbus yn croesawu’r cyfle i helpu i siapio perthnasoedd gwaith agosach drwy’r uwchgynhadledd twf gyntaf hon.

Bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnwys areithiau, sesiynau panel, astudiaethau achos byw a sesiynau rhwydweithio a bydd yn helpu i gynhyrchu gwaddol economaidd parhaol i Gymru a thu hwnt.

Cyhoeddwyd ar 16 January 2018