Datganiad i'r wasg

Guto Bebb: Yr Eisteddfod wrtrh galon y Gymraeg a’i diwylliant

Y Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn croesawu dychweliad yr Ŵyl i Fôn

Menai Bridge

Menai Bridge

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, yn ymuno â’r miloedd o bobl sy’n debygol o ymweld ag Ynys Môn i ddathlu diwylliant Cymru, ei hiaith a’i threftadaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol (4-12 Awst).

Bydd yr ŵyl Gymraeg flynyddol o gerddoriaeth a’r celfyddydau yn cael ei chynnal ar yr ynys am y tro cyntaf er 1999, a bydd dros 6,000 o bobl yn cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau drwy gydol yr wythnos.

Bydd Mr Bebb yn ymweld â’r Eisteddfod ddydd Llun (y 7fed o Awst) lle y bydd yn cyfarfod â’r Prif Weithredwr Elfed Roberts, yn gwylio perfformiadau yn y pafiliwn ac yn ymweld ag amrywiaeth o arddangoswyr, gan gynnwys BBC Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd y Gweinidog hefyd yn traddodi’r prif anerchiad mewn derbyniad yn stondin S4C, lle bydd yn cymryd y cyfle i amlinellu rhagor o fanylion am yr adolygiad annibynnol o’r sianel a fydd yn edrych ar ei chylch gwaith a’r ffordd y mae’n cael ei chyllido a’i llywodraethu.

Dywedodd Guto Bebb:

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigwyddiad pwysig iawn ar galendr diwylliannol Cymru. Mae’r ŵyl hon ymhlith y gorau yn y byd, ac mae’n cynnig cyfle gwych i ni hyrwyddo iaith, celfyddydau a thalentau’r Cymry i weddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Ni ellir pwysleisio gormod yr effaith economaidd y mae’r ŵyl yn ei chael ar yr ardal leol. Nid yn unig y mae busnesau, gwestai a meysydd gwersylla’r ardal sy’n cynnal yr ŵyl yn elwa ohoni, ond mae hefyd yn rhoi sylw i’r ardaloedd cyfagos, a’r atyniadau diwylliannol eraill sydd gan Gymru i’w cynnig i ymwelwyr yr haf hwn. Rydw i’n edrych ymlaen at ymuno â phawb sy’n teithio i Ynys Môn i gymryd rhan yn y dathliadau, ac yn gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn llwyddiant i’r trefnwyr ac i bob un sy’n cystadlu.”

Mae’r Eisteddfod yn denu dros 160,000 o ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr wythnos, gan roi hwb o rhwng £6 ac £8 miliwn yn ôl yr amcangyfrifon i’r economi leol dros gyfnod yr ŵyl.

Bydd yr ŵyl eleni’n cynnwys digwyddiadau a pherfformiadau i nodi canmlwyddiant brwydr waedlyd Passchendaele, lle lladdwyd y bardd, Ellis Humphrey Evans - sy’n fwy adnabyddus fel Hedd Wyn - yn ystod diwrnod cyntaf yr ymladd. Roedd Hedd Wyn wedi cyflwyno cerdd yng nghystadleuaeth cadair yr Eisteddfod y flwyddyn honno, ond bu farw cyn cael gwybod ei fod wedi ennill. Yng ngŵyl 1917 ym Mhenbedw - fis ar ôl ei farwolaeth - rhoddwyd amdo du dros y Gadair farddol er cof amdano.

Gan gymryd ysbrydoliaeth o hanes Hedd Wyn a’r genhedlaeth o fechgyn na ddaeth adref o’r Rhyfel, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn agor gyda pherfformiad arbennig yn coffáu’r Rhyfel, union ganrif yn ddiweddarach, a thrwy lygaid y bobl. Mae’r teitl, “A Oes Heddwch?” nid yn unig yn berthnasol i’r Rhyfel ond hefyd i’r Eisteddfod a seremonïau’r Orsedd.

Cyhoeddwyd ar 7 August 2017