Stori newyddion

Gall y Fargen Twf chwyldroi economi Gogledd Cymru

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod cynnydd ar Fargen Twf Gogledd Cymru yn Llundain heddiw

Bydd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU a’r Arglwydd Bourne yn croesawu ASau o bob cwr o Ogledd Cymru heddiw i drafod y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Bargen Twf Gogledd Cymru.

Mae’r Fargen Twf yn nodi gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth gyda’r nod o greu 5,300 o swyddi a denu buddsoddiad sector preifat gwerth £1 biliwn yn y rhanbarth dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae prif weithredwyr ac arweinyddion y chwe chyngor yn y rhanbarth wedi cefnogi’r cynlluniau, ac mae’r cyfarfod bwrdd crwn heddiw yn gyfle i dîm y prosiect gyflwyno ei gynigion i ASau Gogledd Cymru.

Bydd Jake Berry, Gweinidog ar ran Pwerdy Gogledd Lloegr, yn bresennol hefyd gan fod y cynlluniau’n cyd-fynd ag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr, ac yn manteisio ar gysylltiadau economaidd y rhanbarth â Gogledd-orllewin Lloegr.

Nod y fargen yw: * adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth yn y sector carbon isel, y sector gweithgynhyrchu uwch a’r sectorau digidol * hybu twf busnes ar ffurf canolfannau Technoleg Glyfar ac Arloesi a Busnes Rhanbarthol * creu 5,000 o swyddi newydd

Dywedodd Guto Bebb, cyn y cyfarfod bwrdd crwn:

Bydd bargen twf ar gyfer Gogledd Cymru yn chwyldroi’r ffordd mae ein trefi a’n pentrefi yn rheoli eu hunain - symud pwerau i lawr o Lundain a Chaerdydd a’u rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Mae Pwerdy Gogledd Lloegr, ynghyd â bargen twf, yn cynrychioli ein cyfle gorau i ddod â newid trawsnewidiol i Ogledd Cymru. Mae’r rhanbarth mewn sefyllfa berffaith i elwa o Bwerdy Gogledd Lloegr. Mae ei safle allforio a’i enw da am brosiectau ynni mawr yn gwneud y rhanbarth yn bartner perffaith ar gyfer cydweithredu gwell er mwyn ehangu economi’r Gogledd.

Yn sgil lansio’r Strategaeth Ddiwydiannol fis diwethaf, nawr yw’r amser delfrydol i fusnesau ac awdurdodau lleol achub ar y cyfle i ddod ynghyd. Mae Llywodraeth y DU yma i gefnogi a gweithio gyda chwmnïau a grwpiau ar lawr gwlad wrth iddynt ddatblygu bargen bwrpasol sy’n gweithio i Ogledd Cymru i gyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 11 December 2017