Twf a swyddi lleol ar frig yr agenda wrth i Barth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu
Parth Buddsoddi i sbarduno twf ac arloesi mewn sectorau uwch weithgynhyrchu, digidol a thechnoleg

Welsh Secretary Jo Stevens talking with a CSA Catapult employee in Newport.
- Bydd y Parth yn datblygu canolfan lled-ddargludydd yng Nghasnewydd a pharc gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghaerdydd fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol drawsnewidiol y llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw
- Disgwylir denu £500m o fuddsoddiad sector preifat a chreu 4000 o swyddi newydd fel rhan o Gynllun ar gyfer Newid y llywodraeth
Mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cymryd cam mawr ymlaen drwy gyhoeddi ei safleoedd diwydiannol ac allweddol, gan roi hwb anferth i fuddsoddiad rhanbarthol a chreu swyddi.
Bydd y Parth Buddsoddi - cydfenter rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU - yn sbarduno arloesi a thwf ar draws y sectorau uwch weithgynhyrchu a digidol a thechnoleg, gyda’r ffocws ar glwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd o safon byd-eang y rhanbarth.
Gyda chefnogaeth £160miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, bydd y Parth yn datblygu’r ganolfan lled-ddargludydd yng Nghasnewydd, ble lleolir busnesau allweddol yn cynnwys KLA, IQE a Vishay, a datblygu parc gwyddoniaeth a thechnoleg i fod yn bwynt ffocws ar gyfer gweithgaredd Ymchwil a Datblygu a buddsoddiad yng Nghaerdydd.
Disgwylir i’r Parth Buddsoddi - un o ddau wedi eu cynllunio ar gyfer Cymru - ddenu £500miliwn o fuddsoddiad sector preifat, creu 4000 o swyddi newydd a datgloi 3m troedfedd sgwâr o gapasiti gweithgynhyrchu, Ymchwil a Datblygu ac arloesi.
Dywedodd Alex Norris, Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Thwf Lleol:
Mae rhyddhau potensial ein dinasoedd a’n rhanbarthau yn ganolog i’r Strategaeth Ddiwydiannol a’r Cynllun ar gyfer Newid.
Bydd Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gefnogir gennym gyda £160miliwn o gyllid, yn adeiladu ar gryfderau diwydiannol y rhanbarth i ddatblygu dyfodol cyffrous i bobl leol - creu swyddi medrus newydd a sbarduno twf economaidd yn lleol ac ar draws Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru:
Mae Parth Buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd yn nodi cam ymlaen trawsnewidiol ar gyfer De Ddwyrain Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad cadarn i sefydlu’r rhanbarth fel pŵer byd-eang ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a Llywodraeth y DU i adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth, denu buddsoddiad preifat sylweddol, cryfhau partneriaethau rhanbarthol a chyflawni buddion gwirioneddol a deimlir gan bobl ar draws Cymru yn eu bywydau bob dydd.
Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r cam hwn ymlaen ar gyfer Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb enfawr i’r busnes a diwydiant o safon byd-eang o fewn yr ardal.
Bydd yn sbarduno twf, yn creu 4,000 o swyddi ac yn adeiladu ar y talent a’r arbenigedd sy’n bodoli eisoes o fewn y rhan hon o Gymru.
Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru rydym yn datblygu economi’r dyfodol ac yn darparu ar gyfer pobl sy’n gweithio ar draws y wlad.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
Dyma gam enfawr ymlaen ar gyfer y Parth Buddsoddi. Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein sylfaen ddiwydiannol gadarn ac ymchwil o safon byd-eang mewn lled-ddargludyddion i sbarduno arloesi mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg a marchnadoedd sy’n tyfu’n gyflym, tra’n cydweithio gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.
Drwy alinio ein hymdrechion gydag asedau unigryw’r rhanbarth a hybu cydweithio ar draws sectorau, rydym yn anelu i greu amgylchedd dynamig ble mae syniadau newydd yn ffynnu, denu buddsoddiad a chyflawni effaith ystyrlon i bobl a lleoedd ar draws y rhanbarth.
Daw’r newyddion fel rhan o gyhoeddiad y Strategaeth Ddiwydiannol heddiw (dydd Llun).
Fel y nodwyd yn y strategaeth, mae sectorau uwch weithgynhyrchu a digidol a thechnoleg yn ddau sector allweddol sy’n sbarduno twf.
Daw’r newyddion yn dilyn cadarnhad am ganolbwynt diwydiannol a daearyddol dau Barth Buddsoddi yn yr Alban yn gynharach y mis hwn a Pharth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn gynharach eleni.