Byddai Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd yn golygu chwarae teg i gymunedau amaethyddol, medd Gweinidog yn Swyddfa Cymru
Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu cynigion y Llywodraeth ar gyfer Dyfarnwr newydd y Cod Cyflenwi Bwydydd, i reoleiddio…
Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu cynigion y Llywodraeth ar gyfer Dyfarnwr newydd y Cod Cyflenwi Bwydydd, i reoleiddio archfarchnadoedd.
Mae Bil Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd (DCCB), sy’n cael ei ddarllen am y tro cyntaf heddiw, yn amlinellu’r cynlluniau i oruchwylio’r berthynas rhwng cyflenwyr a’r archfarchnadoedd er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd yn cael eu rheoleiddio’n effeithiol, cam a argymhellwyd gan y Comisiwn Cystadlu yn 2008.
Dywedodd Mr Jones: “Mae hwn yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir. Mae cymunedau gwledig ac amaethyddol wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud a sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cyflenwyr a’r archfarchnadoedd, fel bod defnyddwyr yn gallu dal ati i brynu cynnyrch o safon am bris teg. Does bosib ei bod yn deg i siopwyr dalu hyd at £1.70 am ddau litr o lefrith tra bo’r ffermwyr yn derbyn llai na 50c.
“Bydd y Dyfarnwr newydd yn atal unrhyw gamddefnydd o rym ymhlith adwerthwyr, sy’n gallu arwain at gostau neu risgiau gormodol yn cael eu trosglwyddo i’r cyflenwr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng Nghymru, lle mae’r cymunedau gwledig yn dibynnu’n helaeth iawn ar brisiau teg am eu nwyddau, er mwyn cynnal eu bywoliaeth. Bydd DCCB yn sicrhau chwarae teg i gymunedau amaethyddol a gwledig ac yn gwneud yn siŵr bod cyflenwyr yn cael eu gwarchod, fel ein bod ni’n gallu symud tuag at farchnad fwyd deg yn gyffredinol.”
Bydd y DCCB wedi’i leoli yn y swyddfa Masnachu Teg ac yn sicrhau bod archfarchnadoedd yn cadw at God Ymarfer Cyflenwi Bwydydd 2009, gan enwi a dwyn gwarth ar y rhai sy’n methu cydymffurfio. Bydd hefyd yn derbyn cwynion gan gyflenwyr sy’n teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg, ac yn cadw eu henw yn gyfrinachol, os oes angen.
Nodiadau i olygyddion:
- Gellir gweld y bil drafft a’r dogfennau’n cyd-fynd ag ef yn http://www.bis.gov.uk/policies/business-law/competition-matters/market-studies/cc-market-investigation-on-the-uk-supply-of-groceries
- Cyhoeddwyd ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ynghylch argymhelliad y Comisiwn Cystadlu i sefydlu dyfarnwr ar 3 Awst 2010, a gellir ei weld yma: http: //www.bis.gov.uk/policies/business-law/competition-matters/market-studies/cc-market-investigation-on-the-uk-supply-of-groceries.
- Daw’r cyllid ar gyfer DCCB gan archfarchnadoedd penodol, ar ffurf ardoll. Yr archfarchnadoedd hynny gyda throsiant blynyddol o £1 Biliwn yn y DU fydd y rhai penodol.
- Daeth yr argymhelliad i sefydlu corff i orfodi Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd gan y Comisiwn Cystadlu, a gynhaliodd ymchwiliad i’r farchnad fwyd. Mae modd gweld ei adroddiadau manwl yn: http://www.competition-commission.org.uk/rep_pub/reports/2008/538grocery.htm