Diogelu dioddefwyr cam-drin domestig yn well yng Ngogledd Cymru
Bydd goroeswyr cam-drin domestig ledled Gogledd Cymru yn cael eu diogelu’n well o ganlyniad i ehangu’r Gorchmynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig (DAPO).

- Mynd i’r afael â cham-drin domestig yng Ngogledd Cymru
- Cannoedd yn fwy o ddioddefwyr yn cael mwy o ddiogelwch rhag eu camdrinwyr llwfr
- Y Llywodraeth yn ategu’r ymrwymiad i haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd fel rhan o’i Chynllun ar gyfer Newid
O heddiw ymlaen, gall dioddefwyr yn y rhan hon o’r wlad – yn ogystal â’u ffrindiau, eu teuluoedd neu eu gweithwyr cymorth – wneud cais am y gorchmynion hyn yn y llys teulu yng Nghaernarfon, Prestatyn neu Wrecsam. Gall yr heddlu hefyd wneud cais yn y llys ynadon ar ran dioddefwyr i gael eu diogelu rhag camdrinwyr. Daw hyn wrth i’r Llywodraeth ategu ei hymrwymiad i haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd fel rhan o’i Chynllun ar gyfer Newid.
Mae Gorchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig yn adeiladu ar bwerau presennol yr heddlu i ddiogelu dioddefwyr yn well. Mae hyn yn cynnwys gorfodi drwgweithredwyr i gadw draw o ardaloedd gwahardd llym, gwisgo tagiau GPS, a mynychu ymyriadau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.
Yn wahanol i’r trefniadau presennol, mae’r gorchmynion hyn yn cynnwys pob math o gam-drin domestig – gan gynnwys cam-drin corfforol, ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, cam-drin economaidd a stelcio – a gall pob llys wneud gorchymyn. Hefyd, nid oes terfyn i hyd y gorchmynion hyn, o’i gymharu â’r 28 diwrnod sy’n berthnasol i’r gorchmynion diogelu presennol.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, rhoddodd Heddlu Gogledd Cymru 462 o Hysbysiadau Diogelu rhag Trais Domestig, a gwnaeth dros 350 o geisiadau o dan Gyfraith Clare i helpu i ddiogelu’r rheini a oedd yn dioddef cam-drin domestig. Mae’r ffigurau hyn yn dangos pam y bydd dulliau mwy hyblyg a symlach, fel Gorchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig, yn helpu dioddefwyr mwy fyth.
Heddiw, rydym yn dechrau ar yr ail gam ar ôl y lansiad llwyddiannus ym Manceinion Fwyaf, mewn tair bwrdeistref yn Llundain (Croydon, Bromley a Sutton) a gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Tachwedd 2024 – gyda gorchmynion hefyd yn cael eu cyflwyno ar draws Cleveland ym mis Mawrth. Rhwng 27 Tachwedd a 31 Mawrth, sicrhawyd dros 100 o Orchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig ym Manceinion Fwyaf yn unig, gyda’r heddlu’n delio â 45 achos o dorri amodau a rhai ohonynt yn cael eu carcharu am dorri’r gorchymyn.
Ers hynny hefyd, cafwyd sawl euogfarn am dorri gorchymyn gyda rhai o’r drwgweithredwyr eisoes dan glo. Y ddedfryd fwyaf am dorri Gorchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig yw pum mlynedd yn y carchar.
Dywedodd Alex Davies-Jones, y Gweinidog dros Ddioddefwyr a Thrais yn erbyn Menywod a Merched:
Mae’r cynllun peilot DAPO eisoes yn helpu nifer o ddioddefwyr ledled Lloegr, gan roi terfyn ar y cylch cam-drin sy’n eu carcharu yn eu cartrefi eu hunain. Rwyf nawr yn falch o ehangu hyn i rai ardaloedd yng Nghymru, fy ngwlad enedigol.
Bydd y gorchmynion yn lansio yng Ngogledd Cymru i ddechrau, a byddant yn parhau i ddiogelu hyd yn oed mwy o ddioddefwyr gan helpu i gyfrannu at ein Cynllun ar gyfer Newid.
Mae’r gorchmynion hyn yn gweithio, ac mae’n hanfodol bod dioddefwyr – menywod yn bennaf – mewn ardaloedd peilot yn gwybod ble a sut i gael gafael arnynt. Os ydych chi’n cael eich cam-drin, cysylltwch â’ch llys teulu lleol, yr heddlu, neu eich gweithiwr cymorth heddiw i gael help i sicrhau DAPO a’r diogelwch rydych chi’n ei haeddu.
Dywedodd Jess Phillips, y Gweinidog Diogelu a Thrais yn erbyn Menywod a Merched:
Dro ar ôl tro, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn dweud wrthyf fod eu diogelwch wedi cael ei beryglu gan system sy’n methu â’u diogelu’n iawn. Dyna pam nad addewidion ar bapur yn unig yw’r gorchmynion newydd hyn a fydd yn eu diogelu rhag cam-drin domestig – maen nhw’n arfau gwirioneddol ac ymarferol sy’n tracio camdrinwyr drwy dagio electronig, creu ardaloedd gwahardd, a’u gorfodi i fynychu rhaglenni newid ymddygiad.
Mae cyflwyno’r gorchmynion hyn yng Ngogledd Cymru yn gam pwysig i gasglu gwybodaeth fwy gwerthfawr wrth i ni weithio at eu hehangu ar draws y wlad. Dyma sut byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth i haneru trais yn erbyn menywod a merched o fewn degawd – drwy gamau gweithredu pendant sy’n diogelu dioddefwyr ac yn dal camdrinwyr i gyfrif.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i wneud ein cymunedau’n fwy diogel, ac mae’n hanfodol ein bod yn lleihau trais yn erbyn menywod a merched er mwyn cyflawni’r nod hwn.
Mae’r gorchmynion newydd hyn yn diogelu dioddefwyr cam-drin domestig yn well, gan symleiddio mynediad at gymorth a sicrhau bod pwerau’r llys yn fwy llym nag erioed o’r blaen.
Rydyn ni’n sicrhau newid i bobl ar draws y wlad a bydd dioddefwyr trais erchyll ar draws Gogledd Cymru nawr yn cael y diogelwch maen nhw’n ei haeddu.
Dywedodd Jenny Hopkins, Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Cymru:
Mae Gorchmynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig yn ffordd hanfodol arall i’n herlynwyr allu diogelu dioddefwyr y troseddau erchyll hyn.
Gallwn ofyn i’r llys am orchymyn os ceir rhywun yn euog neu os bydd yn cael rhyddfarn, a byddwn yn ystyried erlyn unrhyw un sy’n torri’r gorchymyn hwnnw.
Nodiadau i olygyddion
- Cafodd y Gorchmynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig eu lansio ym mis Tachwedd 2024 ar draws Manceinion Fwyaf, tair bwrdeistref yn Llundain (Croydon, Bromley a Sutton) a gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
- Ym mis Mawrth 2025, cawsant eu hymestyn i Cleveland.
- Mae’r Gorchmynion yn bolisi cyffredin ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Gartref a chawsant eu deddfu yn Neddf Cam-drin Domestig 2021.
- Gellir gosod tag am hyd at 12 mis ar y tro.