Datganiad i'r wasg

Prosiectau chwaraeon llawr gwlad i gael £4 miliwn o gyllid ledled Cymru

Fel rhan o’r ymgyrch barhaus i gael mwy o bobl i gadw’n heini, mae Llywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation wedi rhoi’r gic gyntaf i’r flwyddyn drwy gyhoeddi y bydd 64 prosiect ledled Cymru yn elwa o gyfran o £4 miliwn.

  • Mae 64 prosiect ledled Cymru yn cael cyfran o £4 miliwn am bob dim o gaeau chwaraeon newydd sbon, i byst gôl a llifoleuadau
  • Daw hyn yn sgil y buddsoddiad sylweddol diweddaraf gan y Llywodraeth i gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad sydd werth dros £400 miliwn, gan gynnwys caeau aml-chwaraeon, cyrtiau tenis a phyllau nofio
  • Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i gael 3.5 miliwn yn fwy o oedolion a phlant i gadw’n heini erbyn 2030

Cadw’n heini yw’r adduned Blwyddyn Newydd fwyaf cyffredin*, ac mae’r Llywodraeth yn rhoi’r cyfle i gannoedd ar filoedd o bobl ar draws y DU i gadw at eu gair ac i gadw’n heini drwy gynnig cyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad o ansawdd uchel.

Bydd 64 prosiect o Fangor i Gaerfyrddin yn cael cyllid ar gyfer popeth o ystafelloedd newid a phafiliynau, i’r glaswellt pêl-droed 3G gorau gewch chi a llifoleuadau newydd sbon. Mae’r gwaith wedi dechrau ar 63 o’r prosiectau hyn, gyda’r olaf i’w ddechrau yn y gwanwyn.

Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn elwa o £4 miliwn gan Lywodraeth y DU yn 2023/24, gyda £300,000 eisoes wedi’i ddyrannu o gyllideb gyffredinol y flwyddyn nesaf.

Ers 2021, mae Llywodraeth y DU wedi darparu 60 o brosiectau cyfleusterau ar draws Cymru gan ddefnyddio cyllid o £2.5 miliwn, gydag o leiaf 50 y cant o’r buddsoddiad i’w wario yn yr awdurdodau lleol mwyaf difreintiedig ac anweithgar.

Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth y DU:

Mae chwaraeon ac ymarfer corff yn hanfodol i’n hiechyd meddwl a’n lles ac mae miloedd o bobl yn gosod cadw’n heini fel adduned Blwyddyn Newydd bob blwyddyn.

Rydym yn gwybod mai un o’r prif rwystrau o ran cadw’n heini yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel, a dyna pam rydym yn darparu 64 o brosiectau newydd ledled Cymru.  

Mae Llywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation eisoes wedi cyflawni 60 o brosiectau gyda chefnogaeth dros £4 miliwn i roi’r cyfleusterau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gymunedau lleol.

I nodi’r cyhoeddiad, aeth Fay Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, i ymweld â Pharc y Darren yng Nglynrhedynog.

Dywedodd Fay Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu clybiau a grwpiau i gael mynediad at y manteision iechyd a chymdeithasol sy’n perthyn i chwaraeon.

O ganlyniad i’r cyllid hwn, bydd gan bobl ar hyd a lled Cymru rywle gwell i wneud ymarfer corff a mwynhau chwaraeon. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Cymru Football Foundation wedi dod at ei gilydd i fuddsoddi mewn prosiectau a fydd o fudd i gymunedau am flynyddoedd lawer i ddod.

Dywedodd Aled Lewis, Pennaeth Buddsoddi a Gweithrediadau Cymru Football Foundation:

Bydd y cyllid hanfodol hwn yn caniatáu i Cymru Football Foundation fuddsoddi a chefnogi cymaint o bobl ledled Cymru wrth i ni gyflawni ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cyfleusterau pêl-droed rhagorol sy’n cyfoethogi cymunedau. 

Diolch i Lywodraeth y DU am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni barhau i ddarparu cyfleusterau ysbrydoledig, sy’n addas at y dyfodol, ledled y wlad.

Bydd y cyllid hwn yng Nghymru yn darparu 21 o brosiectau caeau glaswellt, cae glaswellt artiffisial newydd a 10 ystafell newid, yn ogystal â llifoleuadau a physt gôl. Mae rhai o’r prosiectau hyn wedi’u gwobrwyo â chyllid dros gyfnod o ddwy flynedd. 

Mae rhai o’r cyfleusterau yng Nghymru i elwa o’r cylch buddsoddi eleni yn cynnwys:

  • Mae Clwb Pêl-droed Arberth yn Sir Benfro wedi cael bron i £220,000 ar gyfer cae glaswellt newydd
  • Mae Clwb Chwaraeon a Chymuned Ponthir wedi cael £345,000 ar gyfer gwella ystafell newid
  • Mae Clwb Pêl-droed Tref Pontarddulais wedi cael bron i £19,000 ar gyfer llifoleuadau cludadwy newydd
  • Mae AFC Glais wedi cael bron i £8,500 ar gyfer pyst gôl newydd
  • Mae Cyngor Gwynedd wedi cael £300,000 ar gyfer cae glaswellt artiffisial newydd yng Nghanolfan Hamdden Arfon

Mae rhestr lawn o’r cyfleusterau yng Nghymru a fydd yn elwa i’w gweld yma.

Ers 2021, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyfleusterau neu welliannau newydd ar bron i 2,400 o safleoedd ledled y DU gyda’r nod o gael o leiaf 120,000 yn fwy o bobl i gadw’n heini, drwy ei rhaglen £325 miliwn. Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi clybiau llawr gwlad ar hyd y wlad, gan gynnwys timau menywod a merched.

Mae rhaglen caeau aml-chwaraeon ar lawr gwlad y Llywodraeth yn buddsoddi mewn meysydd sydd â’r angen mwyaf am gyfleusterau newydd neu waith adnewyddu. Drwy’r rhaglen, mae mwy o gyfleusterau o ansawdd uchel ar gael i bobl chwarae pêl-droed, rygbi a chwaraeon llawr gwlad eraill.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei strategaeth chwaraeon newydd i gael 2.5 miliwn yn fwy o oedolion, a miliwn yn fwy o bobl ifanc, yn bodloni canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol o gyflawni 150 munud yr wythnos i oedolion, a 60 munud y dydd i bobl ifanc, o gadw’n heini, erbyn 2030. 

Er mwyn helpu i gyrraedd y targed hwn, mae’r prosiectau sy’n cael eu cadarnhau heddiw yn rhan o fuddsoddiad heb ei debyg gan y Llywodraeth o dros £400 miliwn mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan gynnwys cyrtiau tennis mewn parciau a phyllau nofio.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Yng Nghymru mae £3.8 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ar gyfer 2023/24, gyda £300,000 o gyllideb 2024/25 hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw.
  • Gellir dod o hyd i fanylion am sut i gael buddsoddiad ar gyfer cyfleusterau yn eich ardal yn y Football Foundation i Loegr, yr SFA i’r Alban,y CFF i Gymru, a’r IFA i Ogledd Iwerddon.
  • Fel rhan o’i hymgyrch weithgarwch, ymunodd y Llywodraeth yn ddiweddar â chyn-sêr chwaraeon, gweithwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr ffitrwydd, i sefydlu’r National Physical Activity Taskforce i helpu 3.5 miliwn o oedolion a phlant ychwanegol i gadw’n heini erbyn 2030 fel rhan o strategaeth chwaraeon newydd ar gyfer Lloegr.
  • *Cynhaliodd Forbes Advisor arolwg o 2,000 o Oedolion Prydeinig sy’n cynrychioli’r DU yn genedlaethol (ar sail oedran/rhywedd/rhanbarth). Comisiynwyd yr arolwg gan Forbes Advisor a’i gynnal gan gwmni ymchwil farchnata Opinium rhwng 14 Tachwedd 2023 - 17 Tachwedd 2023.
Cyhoeddwyd ar 27 January 2024