Stori newyddion

Bydd strategaeth y Llywodraeth i gefnogi twf busnes yn arwain adferiad economaidd ledled Cymru, yn ôl Cheryl Gillan

Bydd Papur Gwyn newydd y Llywodraeth ar Fasnach a Buddsoddi a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gefnogi busnesau ledled Cymru a gweddill y DU, yn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Papur Gwyn newydd y Llywodraeth ar Fasnach a Buddsoddi a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gefnogi busnesau ledled Cymru a gweddill y DU, yn enwedig cwmniau bach a chanolig, i fod yn fwy agored ac i arwain adferiad economaidd y DU, yn ol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan.

Roedd Mrs Gillan yn siarad cyn ei phrif araith gerbron Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghaerdydd heddiw, a chroesawodd y strategaeth sy’n datgan sut y gall masnach a buddsoddi arwain adferiad economaidd yn y DU fel rhan hollbwysig o’i gynllun ar gyfer twf. Rhoddir pwyslais penodol ar gefnogi cwmniau bach a chanolig i ehangu ac allforio.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i roi masnach a buddsoddi wrth wraidd ei chynlluniau ar gyfer twf economaidd, wrth i ni ailadeiladu ein heconomi. Os yw busnesau am dyfu, mae’n hollbwysig bod cwmniau bach a chanolig yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth y mae eu hangen arnynt i fasnachu’n rhyngwladol a chystadlu’n fwy effeithiol am gyfleoedd allforio. 

“Mae gan Gymru eisoes enw da am fuddsoddi, ond mae angen i ni ddarparu’r amodau ar gyfer mwy o dwf yn y sector preifat - dyna fydd y Papur Gwyn hwn yn helpu i’w gyflawni. Ni all yr economi dyfu mewn gwacter ac ni all Cymru ffynnu drwy fod yn fewnblyg. Yn hytrach, mae angen i ni edrych tuag allan er mwyn manteisio ar gyfleoedd yn y farchnad fyd-eang.  Busnesau bach a rhai sy’n tyfu fydd ein ffynhonnell bwysicaf o ran creu swyddi newydd ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu.”  

Bydd y Papur Gwyn hefyd yn cydnabod pwysigrwydd twf cynaliadwy ar gyfer marchnadoedd newydd, gan allougi gwledydd datblygol i sefydlu twf drwy fasnach a buddsoddi. 

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n hollbwysig ein bod yn cael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu masnach rydd, er mwyn galluogi’r rheini mewn gwledydd datblygol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachu, gan greu economi gynaliadwy a hyrwyddo integreiddio rhanbarthol.” 

Gallwch weld copi llawn o Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Fasnach a Buddsoddi yn:

http://www.bis.gov.uk/policies/trade-policy-unit

Cyhoeddwyd ar 9 February 2011