Datganiad i'r wasg

Y llywodraeth yn datgan ei gweledigaeth ar gyfer polisi masnach a thollau ar ôl yr UE

Alun Cairns: Gall Cymru gael y cyfle i greu cyfleoedd masnacha a buddsoddi ein hunain yn Ewrop a thu hwnt

  • Y Llywodraeth yn gosod y sylfeini ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE.
  • Papurau gwyn am fasnach a thollau yn paratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth i ganiatáu i’r DU weithredu fel gwlad fasnachu wrth i ni adael yr UE ac i osgoi tarfu ar drefniadau masnachu.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru er mwyn i bolisi masnach y dyfodol fod yn dryloyw a sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’r DU gyfan.

Mae’r Llywodraeth wedi cymryd cam mawr wrth baratoi i adael yr UE drwy sefydlu trefniadau ar gyfer polisi masnach a thollau ar ôl Brexit.

Mae’r Papurau Gwyn ar Fasnach a Thollau a gyhoeddwyd heddiw yn paratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod y DU yn barod ar gyfer y diwrnod cyntaf ar ôl gadael.

Mae’r Papur Gwyn a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol yn sefydlu’r egwyddorion a fydd yn tywys polisi masnach y DU yn y dyfodol, yn ogystal â phennu’r camau ymarferol a fydd yn cefnogi’r nodau hynny.

Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cymryd camau i alluogi’r DU i gadw manteision Cytundeb Caffael Llywodraethu Sefydliad Masnach y Byd.
  • Sicrhau bod y DU yn gallu cefnogi economïau sy’n datblygu drwy barhau i roi mynediad ffafraethol i farchnadoedd y DU.
  • Paratoi i drosglwyddo, i gyfraith y DU, gytundebau masnach presennol rhwng yr UE a gwledydd nad ydynt yn aelodau o’r UE.
  • A chreu awdurdod newydd i ymchwilio i gymhorthion masnachu y DU.

Dywedodd Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol:

Rydym eisiau adeiladu polisi masnach ar gyfer y dyfodol a fydd yn sicrhau manteision i economi’r DU ac i fusnesau, gweithwyr a defnyddwyr fel ei gilydd.

Mae busnesau ac allforwyr o Gymru eisoes yn manteisio ar gyfleoedd ac yn falch o werthu cynnyrch ledled y byd. Fel adran economaidd ryngwladol, rydym yn paratoi ar gyfer polisi masnach rhyngwladol i helpu busnesau o Gymru i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd i fasnachu, gan gyfrannu at economi sy’n tyfu a chreu llewyrch i gymunedau ymhob rhan o’r DU.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i gyd yn gwneud eu rhan i sicrhau bod y polisi masnach yn gweithio i Gymru ac yn sicrhau’r canlyniadau posibl gorau i’r DU gyfan.

Mae Cymru hefyd yn lle deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi, ac mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddiad tramor uniongyrchol wedi digwydd yng Nghymru, gan greu 2,581 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 arall.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ni fu erioed amser gwell i gwmnïau Cymreig fasnachu ac allforio dramor, ac mae’r papur hwn yn gam tuag at ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau.

Mae cynnyrch Cymreig yn adnabyddus ledled y byd – o’n bwydydd enwog i’n rhagoriaeth beirianyddol. Rydym yn allforio popeth o allbwn creadigol Aston Martin i’r adenydd awyrennau sy’n cael eu defnyddio gan nifer o gwmnïau hedfan byd-eang.

Mae gennym ni gyfle nawr i greu ein cyfleoedd uchelgeisiol ein hunain i fasnachu a buddsoddi yn Ewrop a’r tu hwnt, ac i osod Cymru a Phrydain yn gadarn mewn lle blaenllaw yn y byd masnachu a buddsoddi byd-eang.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu sicrhau ymadawiad â’r UE sy’n gweithio i’r DU gyfan.

Mae gan Gymru berthynas fasnachu gref eisoes gyda marchnadoedd ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae mwy na 3,800 o fusnesau’n allforio yng Nghymru, gyda chyfanswm eu gwerth yn £13 biliwn yn chwarter cyntaf 2017. Mae nwyddau a gynhyrchir yng Nghymru yn cael eu gwerthu ledled y byd:

  • Mae Dawnus, cwmni datrysiadau peirianneg sifil sy’n masnachu yng Ngorllewin Affrica wedi cael allforion gwerth mwy nag £80 miliwn, a hynny dim ond yn 2012;
  • Yn y sector technoleg, mae SPTS Technologies o Gasnewydd yn allforio mwy na 90% o’i gynnyrch i gwsmeriaid byd-eang ac mae wedi mynd y tu hwnt i £1 biliwn mewn gwerthiannau allforio; a
  • Bellach mae dros hanner awyrennau masnachol y byd yn defnyddio’r adenydd a wneir gan Airbus ym Mrychdyn; ac

Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi masnach a buddsoddi ymhob rhan o’r DU, er mwyn rhannu gweithgareddau hyrwyddo masnach i gefnogi busnesau yng Nghymru.

Mae Cymru a’r DU gyfan yn parhau i fod yn gyrchfan ddeniadol ar gyfer buddsoddwyr tramor, ac yn 2016/17 fe wnaeth Cymru ddenu 85 o brosiectau buddsoddiad tramor uniongyrchol, gan greu 2,581 o swyddi newydd a diogelu 8,965 o swyddi.

Yn cael ei gyhoeddi heddiw hefyd, mae Papur Gwyn Bil Tollau Llywodraeth y DU, sy’n nodi cynlluniau i ddeddfu ar gyfer y cyfundrefnau tollau tramor a chartref a TAW penodol y bydd eu hangen ar y DU pan fydd yn gadael yr UE.

Ym mis Awst, fe wnaeth Llywodraeth y DU ddatgan ei chynigion ar gyfer perthynas uchelgeisiol newydd gyda’r UE mewn perthynas â thollau, a chadarnhaodd y byddai angen i’r DU, beth bynnag fydd canlyniadau’r trafodaethau, gael cyfreithiau tollau tramor newydd erbyn Mawrth 2019. Gan ymateb i alwadau gan fusnesau am ddilyniant, mae’r Papur Gwyn heddiw yn cadarnhau y bydd deddfwriaeth newydd y DU, i’r graddau y bo’n bosibl, yn atgynhyrchu effaith deddfau tollau presennol yr UE.

Hefyd, er bod y Llywodraeth wedi dweud droeon ein bod yn hyderus bod modd cael cytundeb cadarnhaol gyda’r UE, doeth yw paratoi ar gyfer pob canlyniad posibl. Felly, mae’r papur yn ymdrin â darpariaethau ar gyfer gweithredu cyfundrefnau tollau tramor a chartref a TAW os na ddeuir i gytundeb, ac mae’n nodi’r camau y byddai’r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau a theithwyr. Mae hefyd yn galluogi’r DU i baratoi ar gyfer amrywiaeth o ganlyniadau i drafodaethau, gan gynnwys cyfnod gweithredu.

Bydd y Bil Tollau Tramor yn rhoi’r pŵer i’r DU wneud y canlynol:

  • Codi tollau tramor ar nwyddau; diffinio sut bydd nwyddau’n cael eu categoreiddio; gosod ac amrywio cyfraddau tollau tramor ac unrhyw gwotâu.
  • Diwygio’r cyfundrefnau TAW a thollau cartref er mwyn iddynt allu gweithredu’n effeithiol ar ôl i ni adael
  • Gweithredu’r elfennau sy’n ymwneud â threthi o bolisi masnach y DU yn y dyfodol.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:

Mae buddsoddi a masnach yn hollbwysig i ddyfodol economaidd y wlad. Mae’r Papur Gwyn yn nodi ein cynllun i gadw masnach â’r UE mor ddidrafferth â phosibl, ac mae’n cadarnhau ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau cyfnod pontio llyfn.

Rhagor o wybodaeth

  • Wrth i ni baratoi i adael yr UE, byddwn yn ceisio trosi cytundebau masnachol presennol yr UE a threfniadau ffafraethol eraill yr UE, gan sicrhau bod y DU yn cadw cymaint o sicrwydd a dilyniant â phosibl mewn perthnasoedd masnach a buddsoddi ar gyfer busnesau, dinasyddion a’n partneriaid masnachu.
  • Mae cyfanswm ein masnach gyda’r byd yn cyfateb i fwy na hanner ein GDP - roedd allforion a mewnforion yn cyfateb i ryw 30% yr un o GDP yn 2016.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi gweithio’n llwyddiannus ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a’u hasiantaethau i hyrwyddo gweithgareddau masnachu a buddsoddi ac rydym yn bwriadu parhau â’r dull cydweithredol hwn wrth i ni ddatblygu polisi masnach y DU ar gyfer y dyfodol.
  • Mae Canllaw Allforio Cymru yn nodi’r amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, ac mae’n cynnwys storïau i ysbrydoli am gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus.
Cyhoeddwyd ar 9 October 2017