Cynlluniau’r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer swyddfeydd post yng Nghymru, dywed David Jones
Bydd cyhoeddi datganiad Polisi’r Llywodraeth ar Swyddfeydd Post yn sicrhau dyfodol cadarn a sefydlog ar gyfer y rhwydwaith ledled Cymru a gweddill…

Bydd cyhoeddi datganiad Polisi’r Llywodraeth ar Swyddfeydd Post yn sicrhau dyfodol cadarn a sefydlog ar gyfer y rhwydwaith ledled Cymru a gweddill y DU, yn ol David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru heddiw.
Bu tasglu Swyddfa Cymru ar economi cefn gwlad yn edrych yn ddiweddar ar beth allai’r Llywodraeth glymblaid ei wneud i helpu cymunedau a busnesau gwledig, a thynnwyd sylw at y dirywiad yn nifer y swyddfeydd post a’u pwysigrwydd i gymunedau lleol.
Wrth groesawu’r datganiad, dywedodd Mr Jones: “Mae swyddfeydd post yn chwarae rol unigryw a gwerthfawr mewn cymunedau ym mhob cwr o’r wlad ac roedd hyn yn amlwg yn yr ymatebion a gefais fel rhan o brosiect ein tasglu. Mae Cytundeb y Glymblaid wedi nodi’n glir ein hymrwymiad i sicrhau rhwydwaith cynaliadwy ac mae datganiad heddiw yn nodi sut byddwn yn cyflawni hynny. Bydd y £1.34 biliwn ar gyfer y rhwydwaith yn sicrhau na fydd rhagor o swyddfeydd yn cau a bydd yn cynnal maint presennol y rhwydwaith sydd ag oddeutu 11,500 o ganghennau.
“Bydd ein cynlluniau ar gyfer gwneud Swyddfa’r Post yn fenter gydfuddiannol yn rhoi grym i’r rheini sy’n adnabod Swyddfa’r Post orau - yr is-bostfeistri, y gweithwyr a’r gymuned. Yng Nghymru, mae gennym enghreifftiau eisoes o gymunedau lleol yn ailagor swyddfeydd post, megis yr un yn Nhrefeglwys ger y Drenewydd, a bydd y cynlluniau ar gyfer sefydlu menter gydfuddiannol yn cryfhau rol y cymunedau ymhellach wrth gynnal a datblygu rhwydwaith Swyddfa’r Post. Mae’r datblygiadau hyn yn ymgorffori ysbryd y Gymdeithas Fawr ac maent yn enghreifftiau parod o’r hyn y gall cymunedau lleol ei gyflawni drostyn nhw eu hunain o gael yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol gan y Llywodraeth.
”Mae datganiad heddiw yn dangos bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd swyddfeydd post ar gyfer dyfodol cymunedau gwledig a threfol fel ei gilydd. Bydd ein cynlluniau ar gyfer y rhwydwaith yn sicrhau bod swyddfeydd post yn parhau i fod yn asedau economaidd a chymdeithasol gwerthfawr i’n cymunedau a’n busnesau.”
Mae Datganiad Polisi Swyddfa’r Post yn nodi amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:
- £1.34biliwn dros y pedair blynedd nesaf i foderneiddio’r rhwydwaith a diogelu ei ddyfodol;
- Dim rhaglen cau swyddfeydd post;
- Creu cyfle ar gyfer cyd-berchenogi swyddfa’r post;
- Cefnogi datblygu gwasanaethau ariannol personol fforddiadwy a hygyrch sydd gael drwy Swyddfa’r Post;
- Galluogi Swyddfa’r Post i fod yn ffenestr flaen ddilys ar gyfer gwasanaethau lleol a chenedlaethol y Llywodraeth.