Datganiad i'r wasg

Llywodraeth yn annog cwmnïau Cymru i roi pwyslais ar dwf, meddai Cheryl Gillan

Mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi ac annog cwmniau sector preifat yng Nghymru i gyrraedd y brig - fel clwb pel-droed …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi ac annog cwmniau sector preifat yng Nghymru i gyrraedd y brig - fel clwb pel-droed Abertawe, sydd bellach yn yr Uwch Gynghrair, meddai Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wrth arweinwyr busnes yn y ddinas heddiw.

Roedd Ysgrifennydd Cymru yn Abertawe er mwyn ymweld a chlwb pel-droed y ddinas, sydd newydd gael dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, ac er mwyn annerch arweinwyr busnes lleol.

Yng nghyfarfod Clwb Busnes Abertawe yng Ngwesty’r Village, dywedodd Mrs Gillan: “Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau y bydd y Llywodraeth hon yn aros mewn cof fel y Llywodraeth fwyaf cefnogol i dwf. Byddwn yn bwrw ymlaen a rhaglen sydd ag un pwrpas - creu swyddi. Byddwn yn dangos ein bod yn cefnogi busnesau mentrus a phobl fentrus - ac nad oes ‘ardaloedd yn cael eu hanghofio’ yng Nghymru o safbwynt twf.”

Dywedodd Mrs Gillan fod y Llywodraeth yn sicrhau bod gan Gymru y seilwaith priodol i alluogi busnesau i weithredu a thyfu a denu buddsoddiad newydd ledled y wlad.

Dywedodd: “Rydw i am i fuddsoddiad a thwf economaidd ymledu ar draws Cymru gyfan, a pheidio a bod yn gyfyngedig i Dde-ddwyrain y wlad.  Dyma pam ein bod yn buddsoddi miliynau mewn band eang cyflym iawn - y priffyrdd newydd ar gyfer twf busnes yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Dyma pam ein bod yn cadw’r cais i drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe ar agor hefyd. Hyd yn oed ar sail y cyhoeddiad a wnaethom ym mis Mawrth, bydd amserau teithio o Lundain i Abertawe yn gostwng 20 munud. Bydd teithwyr i’r gorllewin o Gaerdydd hefyd yn mwynhau’r un buddion a’r rheini ar y rheilffordd fydd wedi’i thrydaneiddio - trenau newydd, cyflymach, mwy gwyrdd a mwy cyfforddus. Ac yn bwysig i fusnesau - amserau teithio byrrach yn ol ac ymlaen i Lundain.

“Mae angen i ni siarad o blaid y cyfleoedd a ddaw yn sgil trydaneiddio a moderneiddio’r brif reilffordd i Dde Cymru. Mae angen i ni ganolbwyntio ar bwyntiau cadarnhaol y cyhoeddiad hwn, a pheidio a gorbwysleisio’r pethau negyddol. Ac mae angen i bawb weithio gyda’i gilydd i gryfhau’r achos busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe. Mae hyn yn fusnes anorffenedig yn fy marn i.”

Yn gynharach, roedd Ysgrifennydd Cymru wedi galw yn Stadiwm Liberty yng Nglandŵr i weld sut oedd y trefniadau yn dod yn eu blaenau i baratoi’r Stadiwm ar gyfer ei dymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair. Bu i Mrs Gillan gyfarfod a chadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, a’i cyflwynodd i staff y stadiwm wrth iddi weld y gwaith a oedd yn cael ei wneud, gan gynnwys y gwaith o adnewyddu siop swyddogol y clwb.

Dywedodd Mrs Gillan: “Nid yw gweld pel-droed yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty ddim ond yn llwyddiant ysgubol i glwb pel-droed Dinas Abertawe; bydd hefyd yn hwb enfawr i’r ddinas, a’i heconomi gyfan. Bydd yn werth miliynau o bunnoedd i Abertawe o ran twristiaeth a masnach, wrth i broffil y ddinas godi ar draws y DU a dramor.

“Rwy’n llongyfarch Huw Jenkins a gweddill bwrdd yr Elyrch am lywio’r clwb i’r gynghrair pel-droed mwyaf, a’r gorau, yn y byd. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r Elyrch i’r tymor nesaf, a byddaf yn cefnogi Brendan Rodgers a’i dim wrth iddynt gystadlu yn erbyn yr enwau mwyaf o flaen cynulleidfa fyd-eang enfawr bob wythnos. Bydd Cymru’n falch iawn ohonynt.”

Anerchiad llawn Ysgrifennydd Cymru i Glwb Busnes Abertawe

Cyhoeddwyd ar 17 June 2011