Hwyl fawr GSi: mae cyfeiriadau e-byst DVLA yn newid
Mae rhwydwaith Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) yn cael ei ddiddymu’n raddol ar draws llywodraeth. Bydd DVLA yn dileu ‘.gsi’ o gyfeiriadau e-byst o Ddydd Gwener 16 Tachwedd 2018.

Mae’r rhwydwaith GSI yn cael ei ddiddymu’n raddol ar draws llywodraeth.
Fel rhan o’r newid hwn, bydd DVLA yn dileu ‘.gsi’ o’n cyfeiriadau ebyst o ddydd Gwener 16 Tachwedd 2018. Byddwn yn parhau i anfon a derbyn ebyst fel arfer yn ystod y newid a gyda’r un lefel o ddiogelwch.
Beth sydd angen i chi ei wneud
O ddydd Gwener 16 Tachwedd, os ydych yn defnyddio unrhyw gyfeiriadau e-bost DVLA sy’n bodoli eisoes, mae angen i chi newid y rhain o:
- enwcyntaf.enwdiwethaf@dvla.gsi.gov.uk
i
- enwcyntaf.enwdiwethaf@dvla.gov.uk
Sicrhewch eich bod yn diweddaru unrhyw gofnodion sydd gennych, fel cyfeiriaduron, rhaglennu’r we neu ffurflenni sy’n defnyddio ein cyfeiriadau e-byst.
Beth fydd yn digwydd os nad ydych yn gwneud y newid
Rhwng 16 Tachwedd 2018 a 31 Mawrth 2019 bydd DVLA yn parhau i dderbyn unrhyw e-byst sy’n cael eu hanfon i gyfeiriad .gsi. Ar ôl 31 Mawrth 2019 ni fydd unrhyw negeseuon a anfonir i gyfeiriad .gsi yn cael eu derbyn.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn neu angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni