Datganiad i'r wasg

Ffigyrau Twf CMC yn dangos bod y Llywodraeth yn cyflawni dros Gymru, meddai Ysgrifennydd Cymru

Yn ystod ymweliad a De Cymru yng nghwmni’r Prif Weinidog, croesawodd  Ysgrifennydd Gwladol Cymru ffigyrau calonogol a welwyd heddiw yn nhwf …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ystod ymweliad a De Cymru yng nghwmni’r Prif Weinidog, croesawodd  Ysgrifennydd Gwladol Cymru ffigyrau calonogol a welwyd heddiw yn nhwf CMC..

Ymwelodd y Prif Weinidog a Mrs Gillan a Working Links Cymru yng Nghaerffili.   Darparwr Rhaglen Waith sy’n cyflogi oddeutu 200 o staff yw Working Links Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae ffigyrau CMC heddiw’n dangos bod economi Prydain,  o ganlyniad i benderfyniadau eofn y llywodraeth, yn sefydlog ar hyn o bryd

“Mae’r sector breifat yn dangos arwyddion o dwf cyson yng Nghymru, gydag archebion newydd i Airbus a buddsoddiadau gan gwmniau fel General Dynamics a Sharp..

“Mae Llywodraeth y DU yn creu’r sefyllfa orau ar gyfer twf yng Nghymru gyda’r £biliwn i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd a’r buddsoddiad o bron i £57miliwn yn y band llydan a gyhoeddwyd yn ddiweddar.   Mae hyn yn dangos bod Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru ac yn rhoi’r economi ar y ffordd briodol ar gyfer adferiad..”

Nodiadau:

  1. Mae Working Links Cymru yng Nghaerffili wedi cefnogi 22,000 o bobl yn ol i waith fel rhan o Raglen Waith Llywodraeth y DU. http://www.workinglinks.co.uk/default.aspx
  2. Gellir canfod ffigyrau twf y CMC yma
  3. Gellir canfod y strategaeth  ’Britain open for Business’ yma
Cyhoeddwyd ar 26 July 2011