Datganiad i'r wasg

Cyllid gan Lywodraeth y DU i greu Clwstwr Diwydiannol arloesol yn Ne Cymru

Dyrannwyd £20 miliwn i sbarduno’r chwyldro diwydiannol gwyrdd, gan leihau allyriadau a chreu swyddi yn y rhanbarth

Bydd cynllun newydd uchelgeisiol sy’n ceisio datblygu parth diwydiannol sero-net yn Ne Cymru erbyn 2040 yn elwa o bron i £20 miliwn o gyllid gan lywodraeth y DU a gallai greu 5,000 o swyddi newydd, yn ôl cyhoeddiad Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU yr wythnos hon (dydd Mercher 17 Mawrth).

Mae’r cynllun yn un o naw prosiect technoleg werdd ledled y DU sy’n elwa o gronfa o £171 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i leihau allyriadau o ddiwydiant, ac mae’n rhan o becyn ehangach o fesurau, sy’n cynnwys glasbrint uchelgeisiol i ddarparu sector diwydiannol carbon isel cyntaf y byd.

Bydd yr £20 miliwn o gyllid yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu Clwstwr Diwydiannol yn Ne Cymru, yn ymestyn o Sir Benfro i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Nod y prosiect hwn yw creu cynllun cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth drwy gynhyrchu a dosbarthu pŵer hydrogen, cynhyrchu trydan glanach sy’n defnyddio technolegau dal carbon, nwy naturiol sy’n llawn hydrogen a datgarboneiddio diwydiant ar raddfa fawr drwy newid tanwydd a chynhyrchu tanwyddau cludo glanach.

Ar hyn o bryd, mae diwydiant yng nghlwstwr De Cymru yn cynhyrchu bron i naw miliwn tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn – tua 12% o gyfanswm diwydiant y DU. Felly, bydd Clwstwr Diwydiannol De Cymru yn helpu i leihau allyriadau’n sylweddol, gan wella ansawdd yr aer a chreu cyfleoedd i Dde Cymru fod yn arweinydd o ran twf economaidd a diwydiannol datgarboneiddio.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd datblygu De Cymru yn barth diwydiannol sero-net erbyn 2040 yn creu miloedd o swyddi ac yn sicrhau gwelliannau yn yr amgylchedd lleol ar yr un pryd.

Bydd gofyn gwneud llawer o newidiadau ar draws ein heconomi er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd Llywodraeth y DU. Ond, yn Ne Cymru ac mewn mannau eraill byddwn yn cyflawni ein nodau mewn ffordd sy’n diogelu swyddi, yn creu diwydiannau newydd ac yn annog twf economaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes ac Ynni y DU, Kwasi Kwarteng:

Mae gan Dde Cymru hanes balch o fentrau diwydiannol a bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU yn creu cyfleoedd newydd i’r rhanbarth ddod yn arweinydd yn y sector carbon isel, gan ddiogelu swyddi lleol a chreu economi werdd newydd.

Drwy ddefnyddio technoleg newydd i atal rhyddhau allyriadau, bydd y prosiect hwn yn creu cynllun mwy cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth yn y dyfodol, ac yn arwain at amgylchedd gwell i bobl De Cymru.

Gan adeiladu ar Gynllun 10 Pwynt y Prif Weinidog ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd a gyhoeddwyd y llynedd, mae’r Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol newydd yn nodi gweledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer arwain at ddyfodol cystadleuol a gwyrddach i’r sector gweithgynhyrchu ac adeiladu. Fel rhan o lwybr Llywodraeth y DU at sero-net erbyn 2050, bydd y mesurau’n creu ac yn cefnogi 80,000 o swyddi yn y DU dros y 30 mlynedd nesaf, ac yn lleihau allyriadau o ddwy ran o dair mewn dim ond 15 mlynedd.

Bydd y strategaeth newydd yn seiliedig ar gefnogi’r diwydiant presennol i ddatgarboneiddio ac annog twf diwydiannau carbon isel newydd yn y DU er mwyn diogelu a chreu swyddi a busnesau crefftus yn y DU. Bydd yn rhoi sicrwydd tymor hir i fusnesau i fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio lleol, fel y dechnoleg sy’n gallu dal a storio allyriadau carbon o orsafoedd diwydiannol – yn hytrach na rhoi gweithgareddau diwydiannol ar gontract allanol i wledydd ar draws y byd lle mae llawer o allyriadau.

Bydd llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno rheolau newydd ar fesur perfformiad ynni a charbon yr adeiladau masnachol a diwydiannol mwyaf, gan gynnwys blociau swyddfa a ffatrïoedd, yng Nghymru a Lloegr. Gallai hyn arwain at arbedion posibl o tua £2 biliwn y flwyddyn i fusnesau mewn costau ynni yn 2030 a’r nod yw lleihau allyriadau carbon blynyddol o fwy na dwy filiwn tunnell – tua 10% o’r allyriadau presennol o adeiladau masnachol a diwydiannol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 19 March 2021