Datganiad i'r wasg

System gwneud cais am ysgariad wedi ei lansio yn ddigidol i’r cyhoedd

Gall straen gwneud cais am ysgariad gael ei leddfu diolch i wasanaeth newydd ar-lein sy’n diddymu’r angen am ffurflenni papur.

Divorce papers

Mae’r gwasanaeth ar-lein yn cynnig anogaeth ac arweiniad i gynorthwyo unigolion i gwblhau eu ceisiadau, gan ddefnyddio iaith glir, hawdd i’w defnyddio Gall yr holl broses gael ei chwblhau ar-lein, yn cynnwys tâl a uwch lwytho tystiolaeth ategol.

Dosbarthwyd mwy na 1,000 o ddeisebau drwy’r system newydd yn ystod y cyfnod prawf- gyda 91% o’r unigolion yn dweud eu bod yn fodlon gyda’r gwasanaeth. Cyflwynwyd y fersiwn newydd, sy’n fwy soffistigedig a haws ei defnyddio ledled Cymru a Lloegr o’r 1 o fis Mai.

Ar hyn o bryd mae staff llysoedd yn treulio 13,000 o oriau yn delio â ffurflenni papur cymhleth yn ymwneud ag ysgariad, ond mae’r gwasanaeth ar-lein symlach a llai technegol hwn wedi arwain at ostyngiad o 95% yn y nifer o geisiadau sy’n cael eu dychwelyd oherwydd camgymeriadau, o’u cymharu â ffurflenni papur. Mae hyn yn golygu mai dim ond 0.6% o ffurflenni sydd wedi cael eu gwrthod ers mis Ionawr.

Dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder, Lucy Frazer:

Bydd caniatáu ceisiadau ar-lein yn helpu i sicrhau ein bod, yn gallu cefnogi y rhai hynny sy’n mynd drwy amser anodd a phoenus.

Bydd gan fwy o bobl yr opsiwn o symud oddi wrth brosesau papur i systemau ar-lein fydd yn lleihau gwastraff, cyflymu gwasanaethau y mae modd eu cyflawni’n sydyn, ac sy’n cyd-fynd yn well â bywyd modern o ddydd i ddydd.

Mae’r newidiadau hyn yn rhan o raglen gwerth £1 biliwn i drawsnewid y system llysoedd- ei wneud yn gyflymach, yn fwy hygyrch ac yn haws i bawb ei ddefnyddio. Mae enghreifftiau eraill o ddiwygiadau llys gan y llywodraeth sy’n gwneud y system gyfiawnder yn fwy hygyrch i bawb yn cynnwys:

  • System ddigidol sy’n ei gwneud hi’n haws a chyflymach i bobl hawlio arian sy’n ddyledus iddynt, datrys anghydfodau tu allan i’r llys a chael mynediad i gyfryngu.
  • Gwasanaeth newydd sy’n caniatáu pobl i gyflwyno eu hapeliadau treth ar-lein- gan leihau’n sylweddol y nifer o geisiadau sy’n cael eu dychwelyd yn anghyflawn neu’n wallus.
  • System ddi-bapur sy’n weithredol yn Llys Ynadon Lavender Hill sy’n golygu bod miloedd o droseddwyr sydd wedi cael eu dal am osgoi talu tocynnau parcio neu ddefnyddio tocynnau’n dwyllodrus yn cael eu cosbi yn gyflymach ac mewn ffordd mwy effeithiol.

Nodiadau i’r golygyddion:

  1. Mae dwy astudiaeth achos ar gael petai angen gyfweliad. Os gwelwch yn dda rhowch alwad i swyddfa’r wasg MoJ ar 020 3334 4872 am fwy o wybodaeth.
  2. Derbyniodd Rebecca, (oedd ddim eisiau i’w chyfenw fod yn hysbys) gadarnhad cyfreithiol o’i hysgariad 11.5 wythnos ar ôl gwneud ei chais- mae’r broses ar bapur yn cymryd tua chwe mis. Dywedodd: “Diolch o waelod calon am wneud y broses cymaint llai poenus ag y gallai fod wedi bod, yn arbennig fel person anabl. Roedd y gwasanaeth cymaint haws oherwydd rwy’n defnyddio cadair olwyn a doedd dim rhaid i mi fynd allan, yn ogystal, fel person awtistig roedd hi’n hawdd iawn cael cefnogaeth gan y tîm pan oedd gen i gwestiynau.
  3. Roedd Elaine Everett wedi gwahanu am fwy na dwy flynedd cyn gwneud ei chais am ysgariad, y mae bellach wedi ei dderbyn. Dywedodd: “Roedd yn rhyfeddol, yn ddi-boen ac yn llai o straen na’r fersiwn bapur y bu i mi ei geisio ei lenwi rhai blynyddoedd yn ôl a minnau’n cael llond bol o’i gael yn ôl sawl tro cyn iddo gael ei dderbyn.”
  4. Mae oddeutu 91% o bobl sy’n fodlon â’r gwasanaeth yn seiliedig â 1100 o bobl a gafodd eu holi.
  5. Mae tystiolaeth yn dangos bod 40% o geisiadau am ysgariad yn cael eu gwrthod yn ystod y cam cyntaf gan nad ydi’r ffurflenni wedi eu cwblhau neu bod dogfennau ar goll. Ers mis Ionawr, allan o tua 1100 o geisiadau dim ond 0.6% sydd wedi cael eu gwrthod, gan ein bod ni’n monitro, gwerthuso a deall y rhesymau am wrthodiadau ac yn datblygu system i wneud i ffwrdd â’r rhain.
  6. Tra’n siarad mewn darlith yn gynharach yn y mis, dywedodd Sir James Munby, Llywydd yr Adran Deulu yn yr Uchel Lys: “Mae’r peilot ysgaru ar-lein wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn dangos, heb os, mai dyma- ddylai fod y ffordd i’r dyfodol.
Cyhoeddwyd ar 6 May 2018