Skip to main content
Stori newyddion

Recriwtio – Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Helpwch i lunio dyfodol diogelwch bwyd yn y DU. Ymunwch â Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol a Chyngor Gwyddoniaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a chyfrannu at wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ymgyrch recriwtio 2026–27

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’i Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a’i Chyngor Gwyddoniaeth, fel rhan o ymgyrch recriwtio 2026–27.

Anogir ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac o ystod eang o ddisgyblaethau gwyddonol a phroffesiynol. Mae’r ASB wedi ymrwymo i ddatblygu pwyllgorau amrywiol sy’n tynnu ar ystod eang o arbenigedd, safbwyntiau a phrofiad.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys cyfleoedd i lenwi’r canlynol:

  • 2 swydd fel Cadeirydd
  • 19 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt
  • 2 swydd fel aelod lleyg

Mae SACs a Chyngor Gwyddoniaeth yr ASB yn darparu cyngor gwyddonol annibynnol sy’n helpu i lywio penderfyniadau ynghylch diogelwch a safonau bwyd ar sail tystiolaeth. Mae eu gwaith yn chwarae rhan bwysig wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr.

Mae’r pwyllgorau canlynol wrthi’n recriwtio:

Sut i wneud cais

Mae gwybodaeth am y swyddi gwag, cymhwysedd, a’r broses ymgeisio ar gael yn y canllawiau i ymgeiswyr. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y broses ymgeisio, a dylid eu darllen cyn gwneud cais.


Mae ceisiadau ar agor nawr

Ymunwch â’n sesiwn wybodaeth rithwir i ddysgu mwy am y swyddi gwag a’n pwyllgorau.

Mae Tîm Recriwtio Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB yn cynnal sesiwn wybodaeth rithwir i’r sawl sy’n ystyried gwneud cais ddydd Gwener, 18 Medi 2026, o 11am i 12pm.

Byddwch chi’n clywed yn uniongyrchol gan aelodau presennol y Pwyllgorau am eu profiadau, ac yn cwrdd â rhai o aelodau staff yr ASB sy’n cefnogi’r pwyllgorau ac a fydd ar gael i ateb eich cwestiynau. P’un a ydych chi’n ystyried gwneud cais i fod yn gadeirydd, yn aelod llawn/cyswllt, neu’n aelod lleyg, rydyn ni’n eich annog i ddod i’r sesiwn a dysgu mwy am:

  • y broses ymgeisio, gan gynnwys awgrymiadau a chyngor
  • swyddi gwag cyfredol
  • sut mae ein pwyllgorau’n gweithio

Defnyddiwch y ffurflen hon i gofrestru ar gyfer y sesiwn a chyflwyno unrhyw gwestiynau yr hoffech i ni eu hateb yn ystod y digwyddiad.