Datganiad i'r wasg

Buddsoddwyr tramor yn gweld cyfleoedd yng Nghymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymated i ystadegau mewnfuddsoddi

Flight paths

Mae buddsoddwyr tramor yn parhau i weld cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru wrth i ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol ddangos bod y wlad wedi denu 85 o brosiectau mewnfuddsoddi yn ystod 2016-17.

Arweiniodd hyn at greu dros 2,500 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 o swyddi, sydd wedi rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i filoedd o deuluoedd.

Yn ystod blwyddyn arall o dorri recordiau, denodd y DU 2,265 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol a arweiniodd at greu bron i 15,000 o swyddi newydd ledled y wlad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r set ddiweddaraf o ffigurau yn dangos bod angen chwilio am fwy o fuddsoddiad rhyngwladol mewn busnesau yng Nghymru, a sicrhau’r buddsoddiad hwnnw er mwyn dod â swyddi, ffyniant a chyfleoedd i gymunedau. Dyna pam rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod busnesau Cymru yn rhan ganolog o genadaethau masnach Llywodraeth y DU.

Bydd canfod marchnadoedd a phartneriaid busnes newydd yn ein galluogi ni i sicrhau cytundebau mawr a fydd yn helpu’r economi yng Nghymru i dyfu ac yn ein helpu i feithrin perthnasoedd llewyrchus ledled y byd. Mae gadael yr UE yn gyfle i ni gamu ymlaen a gwireddu ein hymrwymiad i ddenu mewnfuddsoddiad – nid camu oddi wrth hynny.

Gall busnesau bach a mawr fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU a’r Adran dros Fasnachu Rhyngwladol yn uchelgeisiol yng nghyswllt Cymru a’u bod wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd. Mae’n rhaid i ni barhau i wneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol, gan efelychu ymrwymiad cwmnïau fel Aston Martin i sicrhau buddsoddiad parhaus yn y tymor hir.

Dywedodd Liam Fox, yr Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol:

Gyda’i diwydiannau amlwg yn y sectorau creadigol, gwyddorau bywyd a fferylliaeth, mae Cymru yn parhau i ddenu buddsoddwyr tramor sydd eisiau manteisio ar arbenigedd y wlad hon. Fel adran economaidd ryngwladol, bydd yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol yn parhau i hybu’r DU gyfan i ddarpar fuddsoddwyr, gan gefnogi Busnes Cymru i ddenu mewnfuddsoddiad.

Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos mai UDA sy’n dal ar y brig gan fod y wlad hon yn gyfrifol am 577 o’r prosiectau mewnfuddsoddi yn y DU. China (gan gynnwys Hong Kong) sydd yn yr ail safle gyda 160 o brosiectau , ac mae Awstralia a Seland Newydd wedi ymuno ag India yn y trydydd safle, gyda 127 o brosiectau yr un.

Perfformiodd sectorau’r diwydiannau creadigol, technoleg, ynni adnewyddadwy a gwyddorau bywyd yn neilltuol o dda a bu cynnydd yn nifer y prosiectau ym mhob un o’r rhain – mae hyn yn brawf o ba mor amrywiol yw economi’r DU.

Fel rhan o ymdrech y llywodraeth i ddenu mewnfuddsoddiad, lansiodd yr adran ‘Invest in GREAT Britain and Northern Ireland’ ym mis Ionawr, sef ymgyrch farchnata fawr ledled y byd i hybu’r hyn gall y DU ei gynnig i fuddsoddwyr rhyngwladol.

Hyd yn hyn, mae 1.4 miliwn o ymweliadau â thudalen yr adran fuddsoddi ar wasanaeth digidol great.gov.uk wedi bod, ac mae dros 540 o ymholiadau gan ddarpar fuddsoddwyr wedi cael eu cofnodi.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r adran yn nodi mathau ehangach o brosiectau mewnfuddsoddi, gan gynnwys prosiectau uno a chaffael, a rhai sydd heb gael eu cyhoeddi gan fuddsoddwyr tramor.
  • Felly mae ffigurau’r prosiect Buddsoddi Uniongyrchol Tramor a gofnodwyd yn wahanol i’r rheini a nodwyd gan sefydliadau allanol fel EY ac FT, sy’n olrhain llif prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ar sail cyhoeddiadau buddsoddi yn bennaf.
  • Mae’r sefydliadau allanol hyn yn adrodd ar sail y flwyddyn galendr, ac mae ystadegau’r adran ar sail y flwyddyn ariannol
  • Arolwg EY o ba mor ddeniadol yw Prydain 2017 oedd yn y safle uchaf yn Ewrop o ran cyfanswm prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor
Cyhoeddwyd ar 6 July 2017