Stori newyddion

Cynlluniau peilot ar oriau gweithredu hyblyg wedi dod i ben yn Manceinion a Brentford

Bydd y cynlluniau peilot yn cael eu gwerthuso yn annibynnol yn awr gan fod y profion ar gynnal gwrandawiadau sifil a theulu ar adegau gwahanol wedi’u cwblhau.

Photograph of entrance to Manchester Civil Justice Centre building

Mae dau gynllun peilot i brofi a fyddai’n bosibl cynnal oriau gweithredu mwy hyblyg ar gyfer gwrandawiadau llys wedi dod i ben, yn barod ar gyfer proses werthuso annibynnol.

Yn draddodiadol, mae llysoedd yn eistedd rhwng 10am a 4pm, ond o fis Medi 2019 i fis Mawrth 2020 mi oedd Canolfan Gyfiawnder Sifil Manceinon a Llys Sirol Brentford wedi bod yn gweithredu y tu allan i’r oriau traddodiadol hyn.

Nod y cynlluniau peilot gydag achosion sifil a theulu oedd i brofi effaith defnyddio ystafelloedd gwrandawiadau yn amlach a dros gyfnodau hirach, a sut byddai ystod ehangach o oriau yn creu’r potensial i wella mynediad at gyfiawnder.

Yn ystod y cynlluniau peilot dros gyfnod o 6 mis, cafodd amrywiaeth o achosion eu gwrando, yn cynnwys achosion datrys anghydfod ariannol, achosion damwain traffig ar y ffordd, achosion hawliadau bychain ac achosion meddiannu rhent.

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM) wedi penodi dau gwmni, IFF Research a Frontier Economics, i asesu’r cynlluniau peilot trwy gynnal gwerthusiad annibynnol. Bydd y gwerthusiad yn cynnwys adborth gan aelodau o’r cyhoedd, staff y llysoedd a’r ynadaeth am eu profiadau. Bydd eu canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Huw Evans, rheolwr gwasanaeth GLlTEM ar gyfer y cynllun peilot oriau gweithredu hyblyg:

Cynhaliwyd cynlluniau peilot ar oriau gweithredu hyblyg fel rhan o’r rhaglen gwerth £1 biliwn mae GLlTEM wedi rhoi ar waith i ddiwygio ein system llysoedd a thribiwnlysoedd. Mae’r broses ddiwygio hon yn anelu at sicrhau bod ein system gyfiawnder yn gyfiawn, yn gymesur ac yn hygyrch.

Rydym yn ddiolchgar i ddefnyddwyr y llysoedd, ein staff, y farnwriaeth, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a sefydliadau eraill sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot ac wedi rhoi adborth.

Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch defnyddio oriau gweithredu hyblyg yn y dyfodol ond yn cael ei wneud ar ôl ystyried yn ofalus y gwerthusiad annibynnol ynghyd ag effeithiau, costau a buddion defnyddio oriau gweithredu hyblyg ar draws y system gyfiawnder.

Bydd adroddiad ar y gwerthusiad annibynnol yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Unwaith y bydd ar gael, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar GOV.UK.

  • Mae Manceinion wedi bod yn profi cynnal gwrandawiadau sy’n ymwneud ag achosion sifil ac achosion teulu yn hwyrach yn y dydd (4:30pm i 7:00pm)
  • Mae Brentford wedi bod yn profi cynnal gwrandawiadau sy’n ymwneud ag achosion sifil yn unig yn gynharach (8:00am i 10:30am) ac yn hwyrach yn y dydd (4:30pm i 7:00pm)

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun peilot oriau gweithredu hyblyg GLlTEM a rhaglen ddiwygio ehangach GLlTEM ar gael ar GOV.UK

Cyhoeddwyd ar 6 May 2020