Canllawiau

Rhaglen Ddiwygio GLlTEF

Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am ein rhaglen ddiwygio, gan gynnwys sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Ers 2016 rydym wedi bod yn moderneiddio ein system gyfiawnder i’w gwneud yn fwy syml, hygyrch ac effeithlon.

Mae ein rhaglen uchelgeisiol wedi’i chynllunio i wella llysoedd a thribiwnlysoedd i’r rhai sy’n eu defnyddio ac i’r rhai sy’n gweithio ynddynt.

Roedd ein gweledigaeth ar gyfer diwygio a’n gwasanaethau wedi’u moderneiddio yn rhan hanfodol o’n hymateb yn ystod y pandemig. Fe wnaethant ein galluogi i barhau i ddarparu mynediad at gyfiawnder i’r rhai oedd ei angen.

Yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni

Mae prosiectau diwygiedig yn cael effaith sylweddol ar y rhai sydd angen ein system gyfiawnder, yn ogystal â helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae’r gwasanaethau newydd hyn yn cael eu defnyddio’n eang.

Ar ddiwedd 2023, gwnaethom gyhoeddi data sy’n dangos tuedd tuag at y defnydd cynyddol o wasanaethau digidol. Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Medi 2023 cawsom 2.4 miliwn o achosion a gyflwynwyd yn ddigidol i’n gwasanaethau diwygiedig.

Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • mewnfudo a lloches
  • ysgariad
  • profiant
  • hawliadau am arian
  • achosion troseddol lefel isel gan ddefnyddio’r Weithdrefn Un Ynad
  • apeliadau budd-daliadau’r llywodraeth
  • achosion cyfraith deulu gyhoeddus

Mae sgoriau boddhad gan y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau’n uniongyrchol, neu’r rhai hynny sy’n cysylltu â’n Canolfannau Gwasanaeth am achos, yn parhau i fod yn uchel. Sgoriodd bron pob gwasanaeth rhwng 74% a 94% am sgoriau ‘da iawn’ neu ‘dda’ yn hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2023.

Mae gwasanaethau diwygiedig bellach yn darparu’r mewnwelediadau gwerthfawr sydd eu hangen arnom i gefnogi penderfyniadau ynghylch gwella gwasanaethau ymhellach. Maent yn cynhyrchu gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig sy’n ein galluogi i adnabod rhwystrau a allai fod wedi’u cuddio fel arall.

Gellir gweld hyn yng nghyhoeddiad mis Tachwedd 2023  o adroddiadau asesu a oedd yn mesur pa mor effeithiol y mae pedwar o’n gwasanaethau diwygiedig yn perfformio yn erbyn meini prawf mynediad at gyfiawnder a ddiffiniwyd ymlaen llaw.

Prosiectau diwygio

Mae taflenni ffeithiau yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein prosiectau diwygio ym mhob awdurdodaeth:

Ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd.

Beth rydyn ni’n ei wneud nesaf

Wrth i ni symud i gam olaf y cyflawniad, rydym wedi addasu rhai elfennau o’r Rhaglen Ddiwygio. Bydd hyn yn sicrhau amgylchedd gweithredol sefydlog lle rydym yn parhau i wella ar gyflymder cyson.

Yn y maes troseddol, byddwn yn canolbwyntio ar sefydlogi a gwella’r Platfform Cyffredin, y prif system rheoli achosion yn y llysoedd troseddol. Ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phob agwedd ar y ddau ddatganiad pellach ond byddwn yn parhau gyda rhai elfennau annibynnol sydd eisoes wedi’u hadeiladu.

Byddwn yn cadw System Ddigidol Achosion Llys y Goron, gan nodi ffyrdd y gallwn ei gwella yn y dyfodol, a sicrhau ei bod yn gweithio’n effeithiol ochr yn ochr â’r Platfform Cyffredin.

Rydym yn disgwyl cwblhau a dod â’r Rhaglen Diwygio Troseddol i ben ym mis Mawrth 2025.

Diwygiadau mewn Cyfraith Sifil a Phreifat Teulu yw’r diwygiadau mwyaf a’r rhai mwyaf cymhleth yn y rhaglen. O ganlyniad, byddwn yn ymestyn y dyddiad cwblhau ar gyfer y rhaglen gyffredinol o fis Mawrth 2024 i fis Mawrth 2025.

Bydd newidiadau i orfodaeth sifil yn cael eu dileu o’n cynlluniau, er y byddant yn dal i alluogi cyhoeddi gwarantau digidol.

Bydd yr addasiadau hyn yn hybu effeithlonrwydd ac ymarferoldeb ein technoleg bresennol. Byddant yn darparu gwasanaeth mwy cyson a dibynadwy i ddefnyddwyr cyhoeddus a phroffesiynol. Mae gennym gefnogaeth lawn yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwyddes Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd i’w gwneud.

Drwy gydol y rhaglen ddiwygio, rydym wedi diweddaru ac ymgysylltu â’n rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw yn ogystal â chasglu adborth gan y bobl y maent yn eu cynrychioli.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Rhaglen Ddiwygio drwy:

Cyhoeddwyd ar 9 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 February 2024 + show all updates
  1. Updated page to reflect the latest information on Reform.

  2. We have updated the page in line with the most current reform information.

  3. Updated 'What we're doing next' section - including details on our revised schedule.

  4. Added reform achievements as at 23 February 2023.

  5. Updated information about our reform programme.

  6. Updated the contact email address.

  7. Added translation

  8. Reform Programme information updated and new information fact sheets published.

  9. Welsh translation added.

  10. Added translation

  11. Add link to stakeholder groups

  12. Link to email alerts added.

  13. First published.