Datganiad i'r wasg

Digwyddiadau Cofio Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Y Farwnes Jenny Randerson: “Mae’r canmlwyddiant yn gyfle unigryw i ni ddod at ein gilydd fel gwlad.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Heddiw (4 Awst) bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn talu teyrnged i’r dynion a’r menywod a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel rhan o ddigwyddiad cofio’r canmlwyddiant ledled y wlad.

Bydd y Farwnes Randerson yn mynd i’r digwyddiad cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i gofio am ddechrau’r rhyfel gan mlynedd yn ôl.

Bydd yn mynd i wasanaeth cofio cenedlaethol ar gyfer y Gymanwlad yng Nghadeirlan Glasgow y bore yma, i gofio am gyfraniad penodol gwledydd y Gymanwlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yna, bydd yn mynd i wasanaeth cenedlaethol a gwylnos yng ngolau cannwyll yng Nghadeirlan Llandaf gyda’r nos. Bydd Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Cyngor Caerdydd yn mynd i’r gwasanaeth hwn hefyd, a gynhelir ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae gennyn ni hanes milwrol hir a balch yng Nghymru, ac mae hynny’n fraint. Mae’r canmlwyddiant yn gyfle unigryw i ni fel gwlad ystyried, cofio a diolch i bawb a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf – yn y fyddin ac fel arall – a hynny mor ddewr.

Rydyn ni am gael digwyddiad dathlu cenedlaethol sy’n talu teyrnged i’r dynion a’r menywod hynod ddewr a fu’n brwydro yn y rhyfel - ac sydd hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer y dyfodol i helpu ein pobl ifanc i ddeall graddfa ac arwyddocâd y rhyfel, a sut mae wedi helpu i greu ein gwlad fel ag y mae heddiw.

Byddwn i’n annog pobl o bob oed a chefndir i ddod at ei gilydd i nodi a chofio bywydau’r rheini a fu fyw, a fu’n ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddwyd ar 4 August 2014