Datganiad i'r wasg

Y ddinas gyntaf i ennill statws Hyder mewn Pobl Anabl yn gosod uchelgais cyflogaeth feiddgar i Gymru

Alun Cairns: “Mae’n newyddion gwych mai Abertawe fydd y ddinas gyntaf i ennill statws Hyder mewn Pobl Anabl”

Mae ymdrechion Abertawe i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer cyflogaeth i bobl anabl wedi cael sêl bendith yn swyddogol, ar ôl cael ei henwi’n ddinas gyntaf y DU i ennill statws Hyder mewn Pobl Anabl.

Nod yr ymgyrch Hyder mewn Pobl Anabl yw chwalu’r mythau sy’n gysylltiedig â chyflogi pobl anabl, ac annog cyflogwyr i fanteisio ar y cyfoeth o dalentau sydd ar gael. Mae’r Llywodraeth yn credu y dylai pob person anabl sy’n dymuno gweithio gael cyfle i weithio, a bydd yn ceisio haneru’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth pobl anabl a’r gyfradd cyflogaeth gyffredinol erbyn 2020.

Mae Abertawe wedi cael yr anrhydedd unigryw hon diolch i ymateb hynod gadarnhaol cyflogwyr lleol i’r ymgyrch, gan gynnwys Cyngor Abertawe, yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau a Phrifysgol Abertawe. Mae ymgyrchwyr a busnesau yn y ddinas wedi gosod targed uchelgeisiol iawn i’w hunain yn awr – sicrhau bod pob cyflogwr yn yr ardal yn ymrwymo i’r ymgyrch.

Dywedodd Justin Tomlinson, y Gweinidog dros Bobl Anabl:

Mae Abertawe yn arwain y ffordd drwy fod y ddinas gyntaf yn y DU i ennill statws Hyder mewn Pobl Anabl, a gall y gymuned gyfan ymfalchïo yn hynny. Gyda’r datganiad hwn, mae Abertawe wedi gosod her i ddinasoedd a threfi eraill i ddilyn ei hesiampl.

Pwrpas Hyder mewn Pobl Anabl yw gwneud yn siŵr bod pobl anabl yn gwybod bod cyflogwyr yn cydnabod eu sgiliau a’u mentergarwch ac, ar yr un pryd, annog cwmnïau i elwa ar fanteision gweithlu amrywiol a thalentau pobl anabl.

Bydd yr ymgyrch yn rhan allweddol o’n nod i haneru’r bwlch anabledd, i wella cyfle cyfartal ac i roi cyfle i fwy o bobl anabl gael gyrfa llawn boddhad.

Mae dros 60 o gwmnïau wedi ymrwymo i Hyder mewn Pobl Anabl – gan gynnwys Asda, Barclays a BT – ac yn rhoi’r egwyddorion ar waith drwy roi mwy o gyfleoedd i bobl anabl.

Mae’r ymgyrch Hyder mewn Pobl Anabl, cyllid ar gyfer cyflogaeth drwy Mynediad i Waith a diwygiadau i fudd-daliadau anabledd a diweithdra wedi arwain at gynnydd sylweddol o ran nifer y bobl anabl sy’n gweithio. Roedd y ffigurau diweddaraf yn dangos y bu 238,000 o gynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf – 650 o bobl anabl y dydd ar gyfartaledd.

Gyda’i gilydd mae dros 3.2 miliwn o bobl anabl yn gweithio erbyn hyn o’i gymharu â 2.9 miliwn y llynedd, ac mae nifer y bobl anabl sydd wedi defnyddio’r cynllun Lwfans Menter Newydd i sefydlu eu busnesau eu hunain wedi dyblu bron.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’n newyddion gwych mai Abertawe fydd y ddinas gyntaf i ennill statws Hyder mewn Pobl Anabl.

Mae’n bwysig bod pobl anabl ledled Cymru yn cael yr un cyfleoedd a dewisiadau â phawb arall, ac rwy’n falch y bydd Abertawe yn arwain y ffordd i weddill y wlad.

Mae Llywodraeth y DU yn gwneud ei gorau glas i helpu pobl anabl – mae cynlluniau fel Hyder mewn Pobl Anabl a Mynediad i Waith yn helpu i newid argraffiadau o bobl anabl ac i sicrhau eu bod yn cael swydd ddiogel.

Wrth barhau i ddileu rhwystrau a chynyddu dealltwriaeth pobl, rwy’n gobeithio gweld mwy o ddinasoedd ledled Cymru yn dangos Hyder mewn Pobl Anabl.

Nifer y bobl anabl sy’n gweithio

  • Mae’r gyfradd cyflogaeth pobl anabl ar gyfer oedran gweithio yn y DU bellach yn 46.3 y cant (o’i chymharu â 44.2 y cant ar gyfer yr un cyfnod yn 2014, 2.1 pwynt canran o gynnydd)
  • Mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yn y DU bellach yn 79.3 y cant (o’i chymharu â 78.2 y cant ar gyfer yr un cyfnod yn 2014, 1.1 pwynt canran o gynnydd)
  • O ran y gyfradd cyflogaeth, mae 32.9 pwynt canran o fwlch rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn y DU (o’i gymharu â 34 pwynt canran ar gyfer yr un cyfnod yn 2014, sy’n golygu bod y bwlch o ran y gyfradd cyflogaeth wedi lleihau 1.0 pwynt canran)

Y Bunt Borffor

Yn 2012/13 amcangyfrifwyd bod ‘Y Bunt Borffor’ – sy’n cynrychioli cyfanswm incwm net blynyddol aelwydydd sy’n cynnwys person anabl, ar ôl ystyried costau tai – oddeutu £212 biliwn, ac mae nifer o gyflogwyr wedi gweld mai cael cynrychiolaeth dda o staff anabl yw’r ateb i ddenu cwsmeriaid anabl.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2015