Datganiad i'r wasg

Rhai o nwyddau gorau Cymru yn cael eu cyflwyno i arweinwyr byd

Mae detholiad o nwyddau gorau Cymru wedi cael eu cyflwyno i arweinwyr byd yn Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cafodd cacenni cri, pêl rygbi a barddoniaeth gan Dylan Thomas eu cynnwys mewn basgedi helyg wedi’u gwneud â llaw a fydd yn dangos cynnyrch a chymeriad y wlad i’r ymwelwyr, gan gynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama.

Mae hosanau gwlân, mêl a matiau diod llechen o Gymru ymysg eitemau eraill a gyflwynwyd i’r arweinwyr byd a oedd yn mynychu Uwchgynhadledd NATO yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd heddiw (5 Medi)

Mae nwyddau wedi cael eu darparu gan dros 25 o fusnesau Cymru a gwneuthurwyr o Gymru.

Dyma neges oddi wrth y Prif Weinidog a gafodd ei rhoi yn y basgedi:

Yn ystod yr uwchgynhadledd hon fe welwch sawl enghraifft o sectorau amddiffyn ac awyrofod cryf Cymru. Dyma rai enghreifftiau gwych hefyd o dreftadaeth gref y wlad o ran bwyd a chrefftwaith.

O gerddi Dylan Thomas a chrefftwaith y Bathdy Brenhinol i gynnych sy’n cael ei wneud heddiw yng Nghymru, mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau pob un o’r rhoddion hyn ac y byddant yn eich ysbrydoli i ddod i wybod am bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Roedd yr eitemau a roddwyd i westeion yn Uwchgynhadledd NATO yn cynnwys:

  • Basgedi helyg, wedi’u gwneud â llaw gan ddefnyddio helyg sy’n cael ei dyfu yn ne Cymru gan Hatton Willow o Gaerffili, Seren Willow, gwneuthurwyr basgedi helyg o Gaerdydd ac Out to Learn Willow, yn ne Cymru.
  • Matiau diod NATO personol wedi’u gwneud o lechen Gymreig gan Valley Mill
  • Darn arbennig i gofio wedi’i wneud gan y Bathdy Brenhinol, ac wedi’i ddylunio gan yr ysgythrwr Jody Clark a’i gynhyrchu yn Llantrisant yn Ne Cymru.
  • Cacenni cri wedi’u cynhyrchu’n lleol a’u cyflenwi gan westy’r Celtic Manor.
  • Cyfflincs a breichledau wedi’u llunio gan ddefnyddio aur Cymru gan gwmni Clogau yng Ngogledd Cymru.
  • Mêl wedi’i wneud gan Hilltop Honey yng Nghaersws, canolbarth Cymru.
  • Wisgi wedi’i botelu gan Fragdy Penderyn yn Ne Cymru.
  • Peli rygbi, yn cynrychioli prif gamp Cymru, wedi’u cyflwyno gan Undeb Rygbi Cymru.
  • Y llyfr “Selected Poems by Dylan Thomas” wedi’u cyflwyno gan Orion Publishing.
  • Cyfnodolion o wlân wedi’u gwehyddu gan Jane Beck a Nia Hobbs yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru.
  • Hosanau gwlân gan y cwmni teuluol Corgi Hosiery, o Sir Gaerfyrddin.
  • Printiadau o ffotograff o Bont Gludo Casnewydd wedi’i gymryd gan Pradip Kotecha, a enillodd y gystadleuaeth ffotograffiaeth Casnewydd Eiconig. Cyflwynwyd y rhain gan drefnwyr y gystadleuaeth, Prifysgol De Cymru.
  • Printiadau wedi’u fframio o baentiadau ipad o “400 golygfa eiconig o Gasnewydd” gan yr artist Joseph Anthony Connor.
  • Cyfrifiadur Sony Raspberry Pi maint cerdyn credyd, wedi’i adeiladu ym Mhencoed yn Ne Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 5 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 September 2014 + show all updates
  1. Changed photo

  2. First published.