Stori newyddion

Pumed Datganiad Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Dyma’r pumed tro i Fwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot gyfarfod.

Steel being rolled

Cafwyd pumed cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 25 Ebrill 2024.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio.  

Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu Economaidd Lleol i’r Bwrdd Pontio. Cymeradwyodd y Bwrdd y Cynllun fel y trywydd eang i’w ddilyn, wrth gydnabod hefyd fod angen mynd i’r afael â’r materion sy’n weddill a thrafodwyd blaenoriaethu’r ymyriadau arfaethedig. Cytunodd y Bwrdd mai helpu’r gweithwyr yr effeithir arnynt i ddod o hyd i swyddi newydd sy’n talu’n dda fyddai ei flaenoriaeth gyntaf. Byddai’r Bwrdd hefyd yn blaenoriaethu cefnogi’r busnesau yr effeithir arnynt yn y gadwyn gyflenwi. Roedd y Bwrdd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd adfywio’r rhanbarth yn y tymor hwy.  Cytunwyd y bydd y cynllun hwn, a oruchwylir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer buddsoddi, ar yr amod bod achosion busnes yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd mewn cyfarfodydd dilynol.

Y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oedd wedi cadeirio cyfarfod y Bwrdd Pontio. Roedd y Dirprwy Gadeirydd, Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, yn bresennol. Roedd Felicity Buchan AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, yn bresennol yn lle’r Dirprwy Gadeirydd arall, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro. Hefyd, roedd y canlynol yn bresennol - Alan Mak AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar y cyd yn yr Adran Fusnes a Masnach a Swyddfa’r Cabinet; Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; y Cynghorydd Karen Jones, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Stephen Kinnock, AS Aberafan; David Rees, AS Aberafan. Daeth yr aelodau annibynnol i gyfarfod y Bwrdd, sef Anne Jessopp CBE a Sarah Williams-Gardener. Roedd cynrychiolwyr o’r undebau llafur hefyd yn bresennol: Rob Edwards, Ysgrifennydd Rhanbarthol Undeb Community; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil ar gyfer GMB Cymru a De-orllewin Lloegr a Jason Bartlett, Swyddog Rhanbarthol Unite Wales.  

-diwedd- 

NODIADAU I OLYGYDDION

Ym mis Medi, cyhoeddodd Tata Steel gynigion i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU sy’n werth hyd at £500 miliwn, yn y gwaith o gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Ym mis Hydref 2023, sefydlwyd Bwrdd Pontio i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau  yr effeithir arnynt gan y pontio arfaethedig i waith dur CO2 isel. 

Bydd gan y Bwrdd Pontio fynediad at hyd at £100 miliwn i’w fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar y canlynol:  

  • Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y pontio arfaethedig i waith dur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a
  • Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd lleol ar gyfer y degawd nesaf.

Nid yw’r Bwrdd Pontio yn goruchwylio’r buddsoddiad arfaethedig o £1.25bn yn y gwaith dur CO₂ isel yn Tata Steel UK. Mater i’r cwmni yw goruchwylio hyn gyda’r Adran Busnes a Masnach, Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 25 April 2024