Datganiad i'r wasg

Data tueddiadau'r farchnad mis Chwefror 2015

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.

Heat map

Mae data mis Chwefror yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.5 y cant sy’n dod â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £180,252 o’i gymharu â’r brig o £181,083 ym mis Tachwedd 2007. Mae prisiau tai wedi codi 0.5 y cant oddi ar fis Ionawr.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • Llundain welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 13.1 y cant
  • yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 6.2 y cant
  • Gogledd Orllewin Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 0.7 y cant
  • Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf hefyd gyda gostyngiad o 1.7 y cant

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Rhagfyr 2014 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 11 y cant i 70,470 o’i gymharu â 79,569 ym mis Rhagfyr 2013
  • y bu gostyngiad o 4 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 929 o 967 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 38 y cant i 654 o’i gymharu â 1,062 ym mis Rhagfyr 2013
  • mai Llundain oedd y rhanbarth i weld y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Chwefror

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Ionawr 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Chwefror 2014 Pris cyfartalog Chwefror 2015
Gogledd Ddwyrain Lloegr 6.2% 3.7% £102,061
Cymru 4.4% 5.4% £123,941
Gorllewin Canolbarth Lloegr 2.2% 5.0% £138,982
Dwyrain Lloegr 0.9% 10.5% £202,394
Swydd Gaerefrog a’r Humber 0.7% 2.8% £121,454
Llundain 0.6% 13.1% £463,872
Cymru a Lloegr 0.5% 6.5% £180,252
De Ddwyrain Lloegr 0.3% 9.0% £242,469
Dwyrain Canolbarth Lloegr 0.3% 4.4% £134,032
De Orllewin Lloegr -0.4% 5.1% £186,124
Gogledd Orllewin Lloegr -1.7% 0.7% £111,259

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Chwefror 2015 Chwefror 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £283,500 £266,530 6.4%
Tŷ pâr £170,063 £160,448 6.0%
Tŷ teras £136,481 £128,093 6.5%
Fflat/Fflat deulawr £171,697 £160,506 7.0%
Holl £180,252 £169,249 6.5%

Nifer y gwerthiannau 2013 i 2012

Mis Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2012 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 43,404 43,795 -1%
Chwefror 45,275 44,880 1%
Mawrth 54,737 61,392 -11%
Ebrill 51,050 43,296 18%
Mai 66,358 52,578 26%
Mehefin 66,134 59,911 10%
Gorffennaf 73,733 59,208 25%
Awst 79,464 65,075 22%
Medi 69,703 52,908 32%
Hydref 76,615 59,267 29%
Tachwedd 82,809 64,021 29%
Rhagfyr 79,569 56,759 40%
Cyfanswm 788,851 663,090 19%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,158 43,404 50%
Chwefror 64,957 45,275 43%
Mawrth 67,234 54,737 23%
Ebrill 70,099 51,050 37%
Mai 77,269 66,358 16%
Mehefin 80,435 66,134 22%
Gorffennaf 84,229 73,733 14%
Awst 87,173 79,464 10%
Medi 77,735 69,703 12%
Hydref 84,340 76,615 10%
Tachwedd 69,668 82,809 -16%
Rhagfyr 70,470 79,569 -11%
Cyfanswm 898,767 788,851 14%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2014 i 2013

Adfeddiannau fesul rhanbarth Rhagfyr 2014 Rhagfyr 2013 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 43 71 -39%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 55 84 -35%
Llundain 46 100 -54%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 23 33 -30%
Gogledd Orllewin Lloegr 152 271 -44%
De Ddwyrain Lloegr 84 131 -36%
De Orllewin Lloegr 34 61 -44%
Cymru 55 95 -42%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 61 78 -22%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 101 138 -27%
Holl 654 1,062 -38%

Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 64,120 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Chwefror 2015. Yn Llundain SW3 roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Chwefror 2015 (£27,750,000). Roedd y gwerthiant rhataf yn ystod mis Chwefror 2015 yn Burnley, Swydd Gaerhirfryn (£15,000).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Mawrth am 9.30 y bore ar ddydd Iau 30 Ebrill 2015. Cyhoeddir y data pris a dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda’r dyddiadau rhyddhau y prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael yn www.gov.uk/government/publications/about-the-house-price-index.

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig . Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  12. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry

  14. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 27 March 2015