Datganiad i'r wasg

Twf economaidd cyflymach yng Nghymru na phob rhan arall o’r DU

Mae’r economi wedi tyfu’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall yn y DU, yn ôl ffigurau newydd heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, maent yn dangos bod cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth yn gweithio i Gymru.

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod Cymru wedi gweld cynnydd o 3.4% mewn gwerth ychwanegol gros (GVA) y pen rhwng 2012 a 2013, y twf cyflymaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU.

Er 2010, mae GVA y pen yng Nghymru wedi tyfu 8.4%, y twf cyflymaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU, ar ôl Llundain.

Hefyd, mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Markit yr wythnos hon yn dangos bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn gweithgaredd busnes ym mis Tachwedd er mis Gorffennaf 2014.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae’r ffigurau hyn yn newyddion gwych ac yn dangos bod ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio i Gymru.

Er 2010 rydyn ni wedi cael llai o ddiweithdra, rhagor o swyddi, a nawr tystiolaeth o dwf cyflymach na bron unrhyw ran arall o’r DU.

Mae llawer o waith i’w wneud eto – ond y cynllun sydd gennyn ni ar waith yw gobaith gorau Cymru o adeiladu economi gryfach. Byddai’n wirion rhoi’r ffidil yn y to nawr a pheryglu’r broses o adfer i gynifer o bobl yng Nghymru.

Wele’r ystadegau

Cyhoeddwyd ar 10 December 2014