Datganiad i'r wasg

Fast Growth 50 yn dangos Mentrau Cymreig

Mae rhestr  terfynwyr Fast Growth 50 eleni yn dangos rhai o fusnesau mwyaf cyffrous a llwyddiannus yng Nghymru, meddai Cheryl Gillan Ysgrifennydd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae rhestr  terfynwyr Fast Growth 50 eleni yn dangos rhai o fusnesau mwyaf cyffrous a llwyddiannus yng Nghymru, meddai Cheryl Gillan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Wrth annerch cinio blynyddol Fast Growth 50 yng Nghaerdydd, dywedodd Mrs Gillan bod y dalent  gartref a lwyddodd i gyrraedd  rhestr eleni yn cynrychioli’r gorau o fusnesau Cymru, yn creu swyddi a chyfleoedd newydd ac yn cryfhau’r economi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd:   “Amser i ddathlu yw hi heno.   Noson amdanoch chi a’ch   cwmniau.   Mae’r Llywodraeth yn eich cefnogi, ac mae’n gosod y seiliau ar gyfer twf a sefydlogrwydd economaidd - a thrwy wneud hynny yn creu’r amgylchiadau iawn i ganiatau i  fusnesau ffynnu.

“Fel y gwyddoch,  pan ddaethom ni i rym fe adawyd inni y diffygion ariannol mwyaf erioed, sef £109 biliwn.    Mae hynny 100 gwaith mwy na throsiant blynyddol Admiral,  un o fusnesau cartref mwyaf Cymru, sef £1 biliwn.  Mae’r llog blynyddol ar ein dyled bron yn dair gwaith cyfanswm yr arian a roddir i Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef £15 biliwn y flwyddyn.   Felly rydym wedi gwneud taclo hyn yn flaenoriaeth.

“Dangosodd Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yr wythnos ddiwethaf y ffordd mae’n rhaid inni fynd - a sut yr ydym yn bwriadu gwneud hynny.   Rydych yn gwybod, fel busnesau, pa mor bwysig yw gweithredu o fewn eich modd.   A’r wythnos ddiwethaf, fe fynegom ein cynlluniau yn union ar wneud hynny..”

Dywedodd Mrs Gillan nad oedd y rhaglen lleihau diffygion yn rhwystr i dwf.

Ychwanegodd: “Dylid gweld hyn fel rhan o’r broses o greu twf cryf a chynaliadwy.   Ond ni fydd hwn yn dwf a fydd yn dibynnu ar gymhorthdal cyhoeddus anghynaladwy fel y bu yn y gorffennol.   Yn lle hynny, bydd yn dwf a grewyd gan gwmniau’r sector breifat.  Ni all hynny ddigwydd  ond drwy gefnogaeth llywodraeth sydd o blaid busnesau.

“Dyna pam rydym yn rhoi seibiant Yswiriant Gwladol i’r deg  gweithiwr cyntaf ym musnesau newydd y tu allan i Lundain, De Ddwyrain a Dwyrain Lloegr   Dyna pam rydym yn rhoi cefnogaeth i egin Fentrwyr drwy ymestyn y rhyddhad ardrethi o 10% i fentrwyr o’r £2 filiwn gyntaf i’r £5 miliwn gyntaf.

“Dyma pam rydym eisiau gwneud rhedeg busnes yn fwy syml drwy leihau biwrocratiaeth a man reolau.”

Dywedodd Mrs Gillan bod hyder o’r newydd yn yr economi gyda dau newydd da economaidd yn yr wythnos ddiwethaf.   “Rydym wedi derbyn cadarnhad bod economi’r DU wedi tyfu ar raddfa gyflymach na’r hyn oedd yn ddisgwyliedig  o 0.8%, y twf mwyaf yn y Trydydd Chwarter ers 1999, ac fe godwyd ein cyfradd credyd  fel cenedl.   Mae hyn yn bleidlais o ffydd ym mholisiau economaidd y Llywodraeth newydd.”

Cyhoeddwyd ar 29 October 2010