Datganiad i'r wasg

£35 miliwn ychwanegol i Gymru i frwydro yn erbyn y coronafeirws

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymdrech i fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru i dros £2.1 biliwn

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £35 miliwn ychwanegol i gefnogi Cymru yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cadarnhau heddiw (dydd Gwener 15 Mai).

Bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael yr arian ychwanegol o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cartrefi gofal yn Lloegr, sydd wedi’i chynllunio i gyflwyno mwy o reolaeth dros heintiau, cynyddu profion, cynyddu cymorth clinigol, sicrhau bod gan awdurdodau lleol Lloegr gynlluniau ar waith i gefnogi cartrefi gofal a hybu gallu’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn golygu bod cyfanswm y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r ymdrech i fynd i’r afael â’r coronafeirws yng Nghymru i dros £2.1 biliwn.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyllid a roddir yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU i helpu Cymru drwy’r pandemig hwn, a ddarparwyd ar y cyd â phecyn o fesurau ledled y DU ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru’n goresgyn yr argyfwng hwn.

Bydd y cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol tra’n mynd i’r afael â chamau nesaf y firws dinistriol hwn.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi pobl yng Nghymru drwy ein strategaeth offer amddiffynnol personol (PPE) DU gyfan sy’n golygu bod gan ein gweithwyr rheng flaen arwrol yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws. Rydym hefyd wedi galw ar y Lluoedd Arfog i hybu ymdrechion meddygol a logistaidd yn ogystal ag ailwladoli dinasyddion Prydain o dramor.

Mae’r Canghellor Rishi Sunak hefyd wedi cyhoeddi mesurau digynsail i gefnogi busnesau a gweithwyr yng Nghymru a ledled y DU yn ystod pandemig coronafeirws. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws lle gall cyflogwyr bach a mawr wneud cais am grant gan y llywodraeth o 80% o gyflogau gweithwyr hyd at £2,500 y mis. Caiff y cynllun ei ôl-ddyddio i 1 Mawrth ac mae ar gael tan fis Hydref eleni.
  • Gohirio’r chwarter nesaf o daliadau TAW i gwmnïau, tan ddiwedd Mehefin - sef hwb gwerth £30bn i’r economi.
  • Gwerth £330 biliwn o fenthyciadau wedi’u cefnogi a’u gwarantu gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau.
  • Bydd y Cynllun Benthyciadau Ailgydio yn rhoi benthyciadau hyd at £50,000 er budd busnesau bach gyda gwarant o 100% a gefnogir gan y Llywodraeth ar gyfer benthycwyr. Bydd y benthyciadau hyn yn ddi-log am y 12 mis cyntaf a gall busnesau wneud cais ar-lein drwy ffurflen fer a syml.
  • Bydd y Cynllun Cymorth Incwm Hunan-Gyflogedig yn helpu gweithwyr llawrydd cymwys yng Nghymru i gael hyd at £2,500 y mis mewn grantiau am o leiaf dri mis.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 15 May 2020