Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd yn dathlu Llwyddiant byd-eang Cig Oen Cymru

Cyhoeddodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd heddiw (dydd Llun 24 Gorffennaf) fod yr archwaeth byd-eang am gig oen Cymru yn fwy nag erioed, gydag allforion - sy’n cyfrif am draean o holl allforion bwyd a diod Cymru - yn cyrraedd £110 miliwn y llynedd.

Cyn ei ymweliad cyntaf â Sioe Frenhinol Cymru, cymeradwyodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd lwyddiant ysgubol y sector, sydd bellach yn allforio bron 30,000 tunnell o gig oen sy’n dod o gefn gwlad Cymru i fwy na 40 o wledydd ledled y byd - gan allforio i lefydd mor bell â Hong Kong, Canada a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Cyn mynd i Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd:

Rydyn ni i gyd yn poeni o ble mae ein bwyd wedi dod a’i daith o’r fferm i’r fforc. Mae cig oen Cymru, gyda’i dreftadaeth a’i gymeriad unigryw, wedi dod yn symbol o ansawdd uchel a blas rhagorol ledled y byd ac rydw i wrth fy modd o weld y sector hwn yn mynd o nerth i nerth.

Bydd gadael yr UE yn darparu cyfleoedd newydd i’r diwydiant hynod lwyddiannus hwn dyfu a ffynnu ac rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr heddiw i glywed eu barn am sut y gallwn ddatblygu’r sector yn y dyfodol.

Mae’r galw byd-eang am gig oen Cymru bellach yn golygu bod hyd at 40% o’r holl gynnyrch yn cael ei allforio ledled y byd. Mae cyfanswm yr allforion bwyd a diod o Gymru wedi cynyddu un rhan o bump dros y flwyddyn ddiwethaf ac maent bellach yn werth dros £337 miliwn.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i agor marchnadoedd newydd ar gyfer ein cig oen ac ym mis Mawrth, sicrhaodd y Gweinidog Eustice fargen £15 miliwn i allforio i Kuwait.

Mae cig oen a defaid Cymru yn rhan annatod o Sioe Frenhinol Cymru, gyda mwy na 3,000 o ddefaid yn cystadlu dros dri diwrnod a nifer fawr o gynhyrchwyr cig oen yn arddangos yn y digwyddiad. Tra bydd yn y sioe, bydd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd hefyd yn cwrdd â ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd o bob cwr o’r wlad yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae’n bleser gen i groesawu’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd i Sioe Frenhinol Cymru. Mae ffermio a chynhyrchu bwyd yn rhan hollbwysig o’n heconomi wledig ac mae’r cannoedd ar filoedd o ymwelwyr sy’n heidio i’r digwyddiad pwysig hwn yn Llanfair-ym-Muallt bob blwyddyn yn profi hynny.

Mae Llywodraeth y DU yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ffermwyr Prydain ac i gefnogi’r sector yng Nghymru wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni’n awyddus i ymgysylltu ag arbenigwyr ac undebau yn y diwydiant a gwrando arnynt wrth i ni gychwyn ar y daith bwysig hon. Bydd cytuno ar y trefniadau masnachu iawn gyda’r UE yn y dyfodol yn allweddol i sicrhau bod ffermwyr Cymru yn cael y cyfle i barhau i werthu eu cynnyrch ledled Ewrop ar ôl i ni adael yr Undeb. Drwy wneud hynny, gallwn sicrhau bod ein sector amaethyddol a’n sector amgylcheddol yn parhau i ffynnu yn y tymor hwy.

Nodiadau i olygyddion

  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg Defra ar 020 8225 7626
Cyhoeddwyd ar 24 July 2017