Datganiad i'r wasg

Y farchnad waith yn fywiog wrth i bobl ddychwelyd i weithio yn gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw fan arall yn y DU

Mae ffigurau cyflogaeth yng Nghymru wedi codi eto, wrth i fwy a mwy o bobl elwa o economi sy'n cryfhau ym mhob cwr o'r wlad.

Labour Market Stats

Mae Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw yn dangos bod 25,000 yn fwy o bobl yn gweithio y chwarter hwn, gyda bron i dri chwarter y boblogaeth oed gweithio (71.2 y cant) mewn swydd erbyn hyn.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos y canlynol:

  • Y cynnydd mwyaf mewn pobl yn dychwelyd i weithio eleni allan o bob cenedl a rhanbarth y DU.
  • Anweithgarwch economaidd i lawr 22,000 dros y chwarter - o dan un filiwn eto erbyn hyn (995,000).
  • 2il allan o bob cenedl a rhanbarth y DU o ran cynnydd dros y chwarter
  • Cododd nifer y rhai sy’n hawlio o 300 ym mis Awst, ond disgynnodd o 8,700 dros y flwyddyn
  • Disgynnodd nifer y bobl ifanc sy’n hawlio o 3,100 dros y flwyddyn
  • Cynnydd o 4,000 mewn diweithdra yn y chwarter, gyda chyfradd o 6.5 y cant - tebyg i weddill y DU

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o bobl wedi dychwelyd i weithio yng Nghymru nag yn unrhyw fan arall o’r DU.

Mae buddsoddiad o’r tu allan a thwf busnes a welwyd yng Nghymru yn gynharach eleni yn dwyn ffrwyth nawr.

Ni allwn i gymryd pethau’n ganiataol - mae risg a chyfnewidioldeb economaidd yn bygwth y DU o hyd. Fodd bynnag, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddarparu sefydlogrwydd, diogelwch a’r cyfle i lwyddo.

Cyhoeddwyd ar 16 September 2015