Stori newyddion

Cyflogaeth yng Nghymru yn cyrraedd uchafbwynt newydd gyda nifer fwy nag erioed mewn gwaith

Mae ffigurau chwarterol cadarn unwaith eto ar gyfer economi Cymru yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.

Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru yn dal i gryfhau gyda nifer fwy nag erioed o bobl yn awr mewn gwaith, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae ffigurau chwarterol cadarn unwaith eto ar gyfer economi Cymru yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu ochr yn ochr â gostyngiad yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau. Gwelwyd hefyd ostyngiad yn nifer y bobl a ystyrir yn “economaidd anweithgar” – rhai nad ydynt mewn cyflogaeth neu’n ddi-waith, ond sydd er enghraifft yn astudio neu’n gofalu am aelod o’r teulu.

Dyma’r penawdau o Ystadegau’r Farchnad Lafur:

  • Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 33,000 dros y chwarter diwethaf i lefel uwch nag erioed
  • Roedd y gyfradd gyflogaeth (cyfran y bobl 16-64 oed sydd mewn gwaith) yn 71.5% - i fyny 1.1 pwynt canran dros y chwarter.
  • Mae lefelau diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 8,000 yn ystod y chwarter diwethaf
  • Roedd y gyfradd ddiweithdra (cyfran y bobl 16+ sy’n ddi-waith) yn 5.2% - i lawr 0.7 pwynt canran dros y chwarter.
  • Gostyngodd anweithgarwch economaidd 13,000 dros y chwarter ac mae wedi syrthio 24,000 dros y flwyddyn diwethaf.
  • Gostyngodd y nifer sy’n hawlio budd-daliadau 900 ym mis Chwefror.
  • Mae yna 675,000 o fenywod mewn gwaith, sef cynnydd o 5,000 (0.8%) dros y chwarter a 18,000 (2.8%) dros y flwyddyn.

Meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r rhain yn set wych o ffigurau cyflogaeth ar gyfer Cymru. Mae optimistiaeth ac uchelgais i’w teimlo yn economi Cymru ar hyn o bryd, ac mae hyn yn esgor ar swyddi go iawn a chyflogau uwch i bobl Cymru.

Mae mwy nag erioed o bobl Cymru yn awr yn mynd allan i weithio bob dydd – gan helpu teuluoedd i ddod yn eu blaenau, rhoi bwyd ar y bwrdd, a chodi plant allan o dlodi.

Mae Cymru yn cyflawni unwaith eto – ond gallwn wneud hyd yn oed mwy. Mae’n amser anodd dros ben i’r diwydiant dur a rhaid inni weithio gyda’n gilydd i roi sylw i’r sialensiau hyn. Rwy’n benderfynol o weld Cymru yn dal i ddringo o waelod y tabl cynghrair economaidd, a bydd Cyllideb heddiw yn helpu Cymru i wneud yn union hynny.

Cyhoeddwyd ar 16 March 2016