Stori newyddion

Mae lefel cyflogaeth yn uwch nag erioed yng Nghymru wrth i farchnad swyddi’r wlad ffynnu

Mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn parhau i gynyddu fel y dangosir yn yr ystadegau diweddar.

Jobs Newspaper Advert

Mae cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed wrth i’r ciplun diweddaraf o’r farchnad swyddi ar ôl refferendwm yr UE ddangos bod economi Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer gweddill y wlad.

Mae ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU ymysg nifer o ddangosyddion cadarnhaol.

Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur fel a ganlyn:

  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i fyny 5,000 dros y chwarter i 1.459 miliwn ac mae’r gyfradd i fyny 0.9 pwynt canran i 73.5 y cant. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 38,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 2.5 pwynt canran. Mae’r lefel cyflogaeth a’r gyfradd gyflogaeth yn uwch nag erioed o’r blaen.
  • Mae lefel diweithdra wedi gostwng 5,000 dros y chwarter i 65,000 a’r gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran i 4.3 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 25,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.7 pwynt canran. Mae’r gyfradd yng Nghymru erbyn hyn 0.6 pwynt canran yn is na’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y DU drwyddi draw, sef 4.9 y cant.
  • Roedd y nifer sy’n hawlio’r budd-dal perthnasol 300 (0.8 y cant) yn llai rhwng mis Awst a mis Medi, a 2,100 (4.7 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd erbyn hyn yn 2.9 y cant. Ar gyfer y DU, cafwyd 700 o gynnydd yn y nifer sy’n hawlio’r budd-dal perthnasol (0.1 y cant) dros y chwarter ond gostyngodd 15,700 (2.0 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 776,400. Mae cyfradd y DU yn 2.3 y cant.
  • Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 13,000 dros y chwarter i 441,000 a’r gyfradd wedi gostwng 0.7 pwynt canran i 23.1 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 22,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.1 pwynt canran. Ar gyfer y DU, cafwyd 65,000 o ostyngiad mewn anweithgarwch economaidd (0.2 y cant) dros y chwarter a 231,000 (0.6 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 8.809 miliwn. Mae’r gyfradd anweithgarwch yn y DU erbyn hyn yn 21.5 y cant.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Y ffigurau hyn sy’n rhoi’r cipolwg diweddaraf i ni o’r farchnad swyddi yng Nghymru ar ôl pleidlais refferendwm yr UE, ac maent yn awgrymu bod economi Cymru yn dal i ffynnu.

Mae’n amlwg bod busnesau ac entrepreneuriaid Cymru yn gwneud yr hyn y maent yn ei wneud orau - creu swyddi a gwerthu’u harbenigedd ledled y byd.

Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed, diolch i’n cwmnïau gwych sydd wedi cael hwb gan effeithiau hirdymor y broses diwygio lles sy’n golygu ei bod yn talu i bobl fod mewn gwaith.

Cyhoeddwyd ar 19 October 2016