Datganiad i'r wasg

Cyflogaeth yn parhau i gynyddu yng Nghymru ac ar draws y DU

Lefel cyflogaeth yng Nghymru 6,000 yn uwch dros y chwarter.

Employment statistics

Mae lefelau cynyddol o gyflogaeth yn arwydd clir bod Cymru yn agored i fusnes, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (12 Ebrill).

Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 0.5% ar draws y chwarter a 0.9% dros y flwyddyn.

Mae hyn yn adlewyrchu’r darlun ar draws y DU lle y cynyddodd cyflogaeth 0.1% dros y chwarter a 0.5% dros y flwyddyn.

Mae cyfradd gyflogaeth gydol y DU yn gydradd a’r lefel uchaf erioed ers dechrau cadw cofnodion.

Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur fel a ganlyn:

  • Lefel cyflogaeth yng Nghymru 6,000 yn uwch dros y chwarter i 1.466 miliwn. Dros y flwyddyn, cynyddodd lefel cyflogaeth yng Nghymru gan 11,000.
  • Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 18,000 dros y chwarter i 441,000 ac mae’r gyfradd i lawr 0.9 pwynt canran i 23.2 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 16,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.8 pwynt canran.
  • Roedd cyfanswm cyflogaeth ar gyfer y DU wedi cynyddu 39,000 dros y chwarter i 31,841 miliwn. Cynyddodd y gyfradd 0.1 pwynt canran i 74.6 y cant. Dros y flwyddyn, cafwyd 312,000 o gynnydd yn y lefel ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 0.5 pwynt canran. Mae lefel cyflogaeth yn gydradd â’r lefel uchaf erioed.
  • Roedd cyfanswm diweithdra yn y DU wedi gostwng 45,000 dros y chwarter i 1.559 miliwn, gostyngodd y gyfradd hefyd i 4.7%. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel ddiweithdra 141,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.4 pwynt canran. Ni fu yn is ers y cyfnod Gorffennaf i Fedi 1975.
  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru 8,000 yn uwch dros y chwarter i 74,000 miliwn. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 2,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.1 pwynt canran.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd o weld fod 6,000 yn fwy o bobl mewn gwaith ar draws Cymru nac a oedd dri mis yn ôl a bod y gyfradd ddiweithdra yn is nac yr oedd yr adeg hon y llynedd.

Mae cwmnïau yn parhau i ddangos eu hyder yn y gweithlu Cymreig, fel y gwelais drosof fy hun yn Aston Martin yn Sain Tathan yr wythnos diwethaf. Bydd buddsoddiad y cwmni hwn sy’n fawr ei fri yn creu etifeddiaeth barhaol i’r rhanbarth, gan ddod â 750 o swyddi ynghyd a 1,000 o swyddi eraill ar draws y gadwyn gyflenwi i’r ardal. Bydd cytundeb y Weinyddiaeth Amddiffyn gwerth £330 miliwn a ddyfarnwyd i General Dynamics UK hefyd yn cynnal 300 o swyddi uwch-dechnoleg yn Ne Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn agored i fusnes. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o gwmnïau yn dilyn arweiniad Aston Martin ac yn penderfynu buddsoddi yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r data ar gyfer cyflogaeth, diweithdra, anweithgarwch economaidd ac enillion yn cymharu Rhagfyr 2016 i Chwefror 2017 â Medi 2016 i Dachwedd 2016 (fesul chwarter) a chyda Rhagfyr 2015 i Chwefror 2016 (dros y flwyddyn)
Cyhoeddwyd ar 12 April 2017