Stori newyddion

Newid ebost: hwyl fawr GSi

Nodyn atgoffa y bydd cyfeiriad ebost y Gofrestrfa Tir yn newid ar 30 Ionawr 2016.

GSI

Rhannwyd manylion am ein cynlluniau i newid ein cyfeiriad ebost yn ddiweddar. Dyma nodyn i’ch atgoffa o’r hyn fydd yn newid o ddiwedd y mis hwn.

Yr hyn sy’n newid

Byddwn yn dileu ‘.gsi’ o’r cyfeiriad ebost.

Felly, fel enghraifft, os Tomos Jones yw eich cyswllt, bydd ei gyfeiriad ebost yn newid o:

  • tomos.jones@landregistry.gsi.gov.uk
    i
  • tomos.jones@landregistry.gov.uk

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud:

  • o 30 Ionawr, diweddarwch y manylion cyswllt sydd gennych ar gyfer y Gofrestrfa Tir: dilëwch .gsi o’r cyfeiriad ebost
  • erbyn 29 Chwefror, sicrhewch fod yr holl gofnodion cyfeiriad ebost sydd gennych ar gyfer y Gofrestrfa Tir wedi’u diweddaru
  • cofiwch ddiweddaru unrhyw declynnau sy’n defnyddio ein cyfeiriad ebost

Rhwng 30 Ionawr a 29 Chwefror byddwn yn ailgyfeirio unrhyw negeseuon ebost a anfonir i gyfeiriad ebost .gsi. O 29 Chwefror, bydd negeseuon sydd wedi’u hanfon gyda .gsi yn y cyfeiriad ebost yn derbyn neges adlam.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf bydd y rhwydwaith GSi yn cael ei ddileu’n raddol ar draws y Llywodraeth.

Ni fydd diogelwch ebost wedi’i effeithio gan y newid hwn.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid hwn neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd ar 5 January 2016