Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn annog gyrwyr sy’n 70 oed a hŷn i gadw eu harian yn eu poced y Nadolig hwn

Mae DVLA yn atgoffa gyrwyr sy’n 70 oed a hŷn i ddefnyddio GOV.UK bob amser, gan fod mwy na 800 o yrwyr wedi hysbysu’r asiantaeth eleni am wefannau trydydd parti sy’n codi premiymau am wasanaethau DVLA.

Mae DVLA yn annog gyrwyr sy’n 70 oed a hŷn i gadw eu harian yn eu poced y Nadolig hwn, ar ôl i’r asiantaeth ddatgelu bod mwy na 800 o yrwyr wedi ei hysbysu am wefannau trydydd parti sy’n codi premiymau sylweddol am ei gwasanaethau.

Mae llawer o’r gwefannau hyn yn dangos yn uchel ar ganlyniadau chwiliad Google, sy’n arwain at nifer o yrwyr i ddefnyddio gwefan trydydd parti yn anfwriadol, pan rydynt yn credu eu bod yn delio â DVLA. Mae’r asiantaeth yn atgoffa gyrwyr i ddefnyddio gwefan swyddogol y llywodraeth GOV.UK bob amser i osgoi talu ffioedd ychwanegol.

Dengys ffigyrau newydd a ryddhawyd heddiw bod DVLA wedi derbyn hysbysiadau wrth 803 o yrwyr yn y 12 mis diwethaf sydd wedi talu’n ddiangen i adnewyddu eu trwydded yn 70 oed trwy wefan drydydd parti. Mae rhai o’r gwefannau hyn yn codi tâl trafod o hyd at £81, sy’n £20 yn fwy na’r gost o siopa teuluol nodweddiadol am wythnos.

Mae gwefannau trydydd parti yn codi tâl i basio cais gyrrwr i DVLA, ond nid yw’r gwefannau hyn yn gysylltiedig â DVLA, ac ni chaiff ceisiadau a wneir trwy wefannau trydydd parti eu prosesu’n gyflymach na’r rheiny a wneir trwy GOV.UK. Dyma’r unig le i gyrchu gwasanaethau ar-lein DVLA ble y gellir gwarantu ni fydd ffioedd ychwanegol yn cael eu codi ar ben unrhyw ffioedd statudol a allai fod yn gymwys.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Dylai gyrwyr sydd am adnewyddu eu trwydded yn 70 oedd a hŷn ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein sy’n ddiogel ac am ddim, a hefyd sydd y ffordd gyflymaf a hawsaf i drafod â DVLA. Mae cwsmeriaid fel arfer yn derbyn eu trwydded yrru o fewn 5 diwrnod yn unig.

Cofiwch ddefnyddio GOV.UK bob amser wrth ddefnyddio unrhyw un o’r nifer o wasanaethau ar-lein DVLA.

Pan fydd gyrwyr yn cyrraedd eu pen-blwydd yn 70 oed, mae’n rhaid iddynt adnewyddu eu hawl i yrru pob 3 mlynedd. Mae DVLA yn atgoffa gyrwyr 90 diwrnod cyn bod eu trwydded ar fin dod i ben, a’r ffordd gyflymaf a hawsaf i adnewyddu trwydded yw mynd i GOV.UK ble mae’r gwasanaeth yn gyflym, hawdd i’w ddefnyddio, ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac yn rhad ac am ddim.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r ffigyrau a gyfeiriwyd atynt gan Y Swyddfa Ystadegol Gwladol.

  • I adnewyddu trwydded yrru yn 70 ar-lein neu i gael gwybod rhagor am adnewyddu trwydded yrru ewch i Adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed neu’n hŷn.

  • Pan rydym yn dod yn ymwybodol o wefannau sy’n camarwain modurwyr, rydym yn gweithio’n agos ag asiantaethau eraill y llywodraeth a Netcraft i godi’r mater. Os credwn fod gwefan yn gweithredu y tu allan i’r canllawiau hysbysebu, byddwn yn hysbysebu’r cyrff gorfodi a rheoli perthnasol. Mae hyn yn cynnwys cysylltu ag OFCOM neu’r Phone Paid Service Authority (PSA), yn ogystal ag eBay a Google yn uniongyrchol mewn rhai achosion, i gael y cynnwys wedi’i ddileu. Mae ein hysbysiadau wedi arwain at nifer o wefannau yn cael eu cau i lawr yn ystod y blynyddoedd diweddar.

  • I adnewyddu ar-lein, bydd angen i yrwyr gael pasbort y DU dilys ac i ddarparu cyfeiriadau o ble rydynt wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf. Er mwyn i DVLA adalw’r ffotograff gan Swyddfa Basbort EM, bydd angen i’r cwsmer ddarparu ei rif pasbort. Os bydd DVLA yn gallu adalw’r ffotograff gellir ei ddefnyddio i adnewyddu’r trwydded. Nid oes angen anfon dogfennau gwreiddiol.

  • Gall gyrwyr sy’n gwneud cais ar-lein ddisgwyl i’w trwydded gael ei chyhoeddi o fewn 5 diwrnod gwaith, ond mae’n bosib y bydd trafodion mwy cymhleth yn cymryd yn hirach, gan gynnwys y rheiny lle bydd angen cynnal archwiliadau meddygol. Hefyd gall cwsmeriaid olrhain cynnydd eu cais am drwydded yrru ar-lein.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 29 November 2021