Datganiad i'r wasg

Staff DVLA yn codi dros £50,000 ar gyfer Maggie’s Abertawe

Heddiw (dydd Mercher 5 Rhagfyr), roedd staff DVLA wedi rhoi siec am £56,715 i Maggie’s Abertawe ar ôl blwyddyn o godi arian gan staff ar gyfer yr elusen leol.

Representatives from Maggie's Swansea, including Leon Britton of Swansea City Football Club, accept the cheque for £56,715 from DVLA's Chief Executive Julie Lennard (centre)

Mae Maggie’s Abertawe sydd a’i chanolfan yn Ysbyty Singleton yn rhoi cefnogaeth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol am ddim i bobl sydd â chanser a’u teuluoedd a ffrindiau.

Dewisodd y staff Maggie’s Abertawe fel elusen o ddewis blynyddol DVLA ac wedi codi’r cyfanswm ar gyfer 2018 drwy ystod o weithgareddau a digwyddiadau codi arian, o rafflau, rasys lotri a gwerthu cacennau i feicio’r Ffordd Marwolaeth ym Molifia a dringo’r Wyddfa. Roedd cyngherddau ‘Cerddoriaeth am Maggie’s’, gyda chôr DVLA ei hun yn gwneud argraff gyda’i ddatganiadau o ganeuon poblogaidd wedi codi tua £4,000 drwy werthiant tocynnau i staff DVLA ac aelodau’r cyhoedd.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Rwy’n falch unwaith eto bod ein staff wedi rhoi gymaint o’u hamser hamdden drwy’r flwyddyn i godi miloedd o bunnoedd i gefnogi elusen leol. Dewisodd ein staff Maggie’s Abertawe oherwydd y rhaglen unigryw o wybodaeth, cefnogaeth ymarferol ac emosiynol maent yn eu darparu i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu codi gymaint iddynt.

Dywedodd Sarah Hughes, Pennaeth Canolfan Maggie’s Abertawe:

Fel elusen leol a bach, mae Maggie’s Abertawe yn gwbl ddibynnol ar haelioni’r cyhoedd lleol ac roeddwn yn falch o gael ein dewis fel elusen o ddewis DVLA. Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r brwdfrydedd, syniadau codi arian creadigol a chefnogaeth drwy’r flwyddyn hon. Bydd yr arian a godwyd yn cyfrannu at gostau’r gwasanaethau proffesiynol am ddim rydym yn cynnig i ymwelwyr y ganolfan.

Mae gennym tua 1,200 o ymweliadau pob mis a p’un taw’r gefnogaeth wrth ein cynghorwyr budd-daliadau; y gyfres o sesiynau gyda’n seicolegydd clinigol; y gefnogaeth gan ein cynghorydd plant neu’r gallu i ni gynnal ein cyrsiau profedigaeth, bydd yr arian a godwyd yn cael effaith anferthol yn 2019.

Ar ôl cyflwyno’r siec, cyhoeddodd Julie Lennard hefyd bod staff DVLA wedi pleidleisio am Tŷ Olwen fel ei elusen o ddewis am 2019.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 5 December 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 December 2018 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.